Unwaith y bydd y meddyg wedi cwblhau'r Dystysgrif Feddygol o Achos y Farwolaeth, byddwch wedyn yn gallu cofrestru marwolaeth eich perthynas/ffrind.
Bydd y Dystysgrif Feddygol o Achos y Farwolaeth yn cael ei hanfon yn electronig at y cofrestrydd ar eich rhan, naill ai gan y Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol neu'r swyddogion profedigaeth.
Bydd yr apwyntiad gyda’r cofrestryddion yn digwydd yn y Swyddfa Gofrestru Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau, a bydd yn y swyddfa yn yr ardal lle mae eich perthynas/ffrind wedi marw:
Bydd y cofrestrydd yn gofyn i chi am:
Os oes gennych rai, byddai'n ddefnyddiol mynd â Thystysgrif Geni, Tystysgrif Priodas neu Bartneriaeth Sifil a Cherdyn Meddygol y GIG eich perthynas/ffrind gyda chi, neu lythyr ysbyty diweddar gyda rhif y GIG.
Efallai y bydd angen i chi hefyd fynd â'ch dogfennau adnabod eich hun gyda chi, fel:
Bydd y cofrestryddion yn mynd â chi gam wrth gam drwy'r broses gofrestru, ac ar ddiwedd eich apwyntiad byddwch chi’n cael copïau ardystiedig o'r Dystysgrif o Achos y Farwolaeth, y cyfeirir ati weithiau fel tystysgrif marwolaeth.
Mae angen Tystysgrif o Achos y Farwolaeth yn aml ar gyfer cyfrifon banc, dibenion yswiriant, neu unrhyw ddiben ariannol neu gyfreithiol arall, felly mae'n aml yn werth prynu rhai copïau os oes angen - fydd y rhan fwyaf o leoedd ddim yn derbyn llungopi, dim ond copi gwreiddiol. Gallwch brynu copïau swyddogol ar adeg eich apwyntiad gyda'r cofrestrydd.
Bydd y cofrestrydd hefyd yn cyhoeddi Ffurflen Werdd. Enw swyddogol y ffurflen hon yw'r Dystysgrif Claddedigaeth neu Amlosgiad. Bydd y cofrestrydd yn anfon y ffurflen hon yn electronig at eich trefnydd angladdau.