Byddai'n braf meddwl bod rhai plant yn rhy ifanc i deimlo'r tristwch dwys sy'n dod gyda galar. Yn anffodus, nid yw hyn bob amser yn wir a gallant alaru’r un mor gryf ag oedolion.
Gall plant ddysgu sut i alaru trwy adlewyrchu'r oedolion o'u cwmpas. Maen nhw’n dibynnu'n bennaf ar oedolion i'w cefnogi drwy eu galar, ond gall hyn fod yn heriol iawn pan fyddwch chi’n galaru eich hun.
Mae plant yn gyfyngedig o ran sut maen nhw'n mynegi eu meddyliau a'u teimladau yn ystod trawma, gan ddod o hyd i atgofion anodd eu cofio neu eu trafod, yn lle hynny gall eu hymddygiad newid a allai fod allan o gymeriad iddyn nhw. Trwy adlewyrchu'r geiriau rydych chi'n eu defnyddio, gallant ennill yr hyder a'r gallu i fynegi eu hunain yn araf. Gall dangos eich galar annog plant i fynegi a dangos eu rhai nhw hefyd, ond bydd y ffordd maen nhw'n ymddwyn yn dod yn ganllaw i chi ar sut rydych chi'n eu cefnogi.
Byddwch chi’n gweld rhai sefydliadau yn yr adran sy’n rhoi cyngor am ble i ddod o hyd i gymorth a allai fod yn ddefnyddiol i chi. Mae gan lawer ohonyn nhw lenyddiaeth ragorol i'ch helpu chi, yn ogystal â grwpiau cymorth ar gyfer ymdopi â cholled.