Neidio i'r prif gynnwy

Taflen Wybodaeth am Dynnu Gwaed o Wythiennau i Rieni

Dr Meicro – Eich cynorthwyydd rhithwir eich hun 

Rydym yn gwybod y gall cael pigiad neu brawf gwaed beri pryder weithiau. Efallai y bydd gennych lawer o gwestiynau, meddyliau a theimladau am eich apwyntiad.

Mae Dr Meicro yn fot sgwrsio newydd a ddatblygwyd gan Wasanaeth Seicoleg Paediatrig BIPAB, sydd ar gael ddydd a nos i ddarparu gwybodaeth ac adnoddau i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd am brofion gwaed a phigiadau. Gall Dr Meicro eu helpu i ddechrau adeiladu eu pecyn cymorth ymdopi.  

Beth am ofyn cwestiwn i Dr Meicro? Efallai y byddi di am i dy riant gael golwg gyda ti, neu efallai y byddi di’n hapus i'w ddefnyddio ar dy ben dy hun. Sgania’r cod QR hwn gyda chamera dy ffôn clyfar, neu teipia’r URL yn dy borwr, a chlicia ar yr eicon swigen sgwrsio glas yn y gornel dde isaf. 

Os yw'ch plentyn yn nerfus o amgylch nodwyddau, fe allech chi roi gwybod i'ch meddyg / fflebotomydd a bydd yn gallu eich helpu chi a'ch plentyn. 

https://bit.ly/3hVwOZW

Rydym hefyd wedi datblygu taflen gyda rhai syniadau ar sut i helpu eich plentyn os yw'n ofni nodwyddau. Sganiwch y cod QR hwn gyda chamera eich ffôn clyfar, neu teipiwch yr URL yn eich porwr i gael mynediad iddo.

https://bit.ly/3AO28B3

 

Poster Gwybodaeth Tynnu gwaed o wythiennau

Dr. Meicro™
Chatbot ar gyfer profion gwaed a phigiadau

Dr Meicro yn gynorthwyydd rhithwir eich hun!

Gall fod yn destun pryder cael prawf gwaed neu bigiad, felly mae Dr. Meicro yma i helpu.

Mae Dr. Meicro ar gael ddydd a nos i ddarparu gwybodaeth ac adnoddau i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd am profion gwaed a phigiadau.

Mae Dr. Meicro yn helpu i adeiladu ei pecyn cymorth er mwyn ymdopi en hunain.

Beth am ofyn cwestiwn i Dr. Meicro?

Sganiwch y cod QR hwn gyda'ch camera a ffôn a chilico ar yr eicon swigen sgwrsio glas yn y cornel dde gwaelod.

Dilynwch ni: