Mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (PGIAC) yn comisiynu Mewnblaniadau yn y Cochlea a Dyfeisiau Mewnblaniad Clyw Dargludiad Esgyrn (BCHI) ar gyfer poblogaeth Cymru ar ran y 7 Bwrdd Iechyd. Mae’r Byrddau Iechyd yn y de-ddwyrain, y de-orllewin a De Powys wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd i nodi'r ffordd orau o ddarparu gwasanaeth dyfeisiau mewnblaniad clyw yn Ne Cymru. Nid yw gwasanaethau ar gyfer cleifion sy’n byw yng Ngogledd Cymru a Gogledd Powys yn cael eu cynnwys yn y gwaith yma.
Hoffai PGIAC ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol i gasglu eu barn am drefniadau comisiynu ar gyfer yr holl wasanaethau dyfeisiau mewnblaniad clyw arbenigol yn y dyfodol.
Bydd y broses ymgysylltu yn dechrau ar 4 Ionawr 2023 ac yn para tan 14 Chwefror 2023.
Mae’r dogfennau canlynol wedi’u paratoi i’ch helpu i ddeall y newidiadau hyn a sut y gall hyn effeithio ar y gwasanaeth dyfeisiau mewnblaniad clyw.
Dogfennau Defnyddiol
DYFODOL GWASANAETHAU DYFAIS MEWNBLANIAD CLYW ARBENIGOL YN Y DE-DDWYRAIN, Y DE-ORLLEWIN A DE POWYS
Dweud eich dweud
Gall rhanddeiliaid sydd â diddordeb gwblhau holiadur ar-lein trwy (https://forms.office.com/r/s8bSYTaU5K ).