Mae’r ffliw yn cael ei achosi gan feirysau ac mae'n lledaenu'n hawdd. Gall unrhyw un gael y ffliw, ond mae gan blant y gyfradd uchaf o haint a gall y ffliw fod yn ddifrifol iddynt.
Gall cymhlethdodau gynnwys broncitis a niwmonia (heintiau ar yr ysgyfaint) a heintiau clust.
Mae rhai plant yn mynd mor sâl fel bod angen iddynt fynd i'r ysbyty.
I gael rhagor o wybodaeth am symptomau broncitis, niwmonia a heintiau clust, ewch i'r dolenni isod.
GIG 111 Cymru - Iechyd A-Y: Niwmonia (safle allanol)