Neidio i'r prif gynnwy

Oes angen i mi wneud unrhyw beth?

Yn gyffredinol, gwahoddir plant dwy neu dair (oed ar 31 Awst 2025) i gael eu brechlyn ffliw yn eu meddygfa.  

Mewn rhai ardaloedd, mae plant tair oed a rhai pedair oed yn cael cynnig y brechlyn yn y feithrinfa.  

Os yw'ch plentyn yn y grŵp oedran hwn ac nad yw wedi cael gwahoddiad am y brechlyn erbyn diwedd mis Tachwedd, cysylltwch â'i feddygfa.   

Bydd plant a phobl ifanc yn yr ysgol fel arfer yn cael eu brechlyn ffliw yn yr ysgol. Rhoddir gwybodaeth i rieni am y brechlyn a ffurflen ganiatâd. Darllenwch yr wybodaeth a llofnodwch a dychwelwch y ffurflen ganiatâd cyn gynted â phosibl.   

Mae’n bosibl y bydd pobl ifanc 16 oed a hŷn (a rhai disgyblion ysgol uwchradd iau) yn gallu rhoi caniatâd ar gyfer y brechiad eu hunain os ydynt yn deall yn iawn beth sy’n cael ei gynnig.   

Gall plant a phobl ifanc pedair oed neu hŷn nad ydynt yn yr ysgol gael eu brechlyn rhag y ffliw yn eu meddygfa. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw trefnu apwyntiad.  

Bydd rhaglen adfer yn cael ei chynnal dros dair penwythnos cyntaf mis Rhagfyr. Anfonir llythyrau at rieni a gwarcheidwaid plant a gollodd eu brechiad yn yr ysgol neu nad ydynt yn mynychu addysg, gan eu gwahodd i fynd i un o’n chwe Chanolfan Brechu Cymunedol ar gyfer brechiad ffliw.

Os yw'ch plentyn o dan ddwy oed, neu'n 16 neu 17 oed, ac mewn mwy o berygl o gymhlethdodau o'r ffliw oherwydd cyflwr iechyd, dylai ei meddygfa ei gwahodd i gael ei brechlyn.  

Yn ddelfrydol, dylid rhoi’r brechlyn ffliw yn gynnar yn yr hydref cyn i’r ffliw ddechrau lledaenu yn y gymuned. Fodd bynnag, gellir ei roi ar ddyddiad yn ddiweddarach hefyd.  

 

 

Dilynwch ni: