Neidio i'r prif gynnwy

Beth ddylwn i ei wneud ydw i'n meddwl bod gen i'r ffliw?

Os oes gennych dymheredd neu beswch, dilynwch y canllawiau cyfredol sydd ar gael yma: Canllawiau i bobl sydd â haint anadlol, gan gynnwys COVID-19 | LLYWODRAETH CYMRU (safle allanol)  

Fel arfer rheolir y ffliw trwy orffwys gartref, cadw’n gynnes ac yfed digon o ddŵr. Gallwch gymryd paracetamol (dilynwch y cyngor yn y pecyn a pheidiwch â chymryd mwy na'r dos a argymhellir), i ostwng tymheredd uchel a lleddfu poenau os oes angen.  

Fodd bynnag, os ydych mewn grŵp risg uchel dylech siarad â'ch meddygfa neu fferyllfa gymunedol ar unwaith os ydych yn meddwl y gallai fod gennych y ffliw, oherwydd efallai y byddant yn argymell cwrs o feddyginiaethau gwrthfeirysol.  

Er mwyn helpu i atal y ffliw a feirysau eraill rhag lledaenu, cofiwch:  

Daliwch e  

Defnyddiwch hances bapur pan fyddwch chi'n tisian neu'n peswch.  

Biniwch e  

Rhowch yr hances bapur yn y bin cyn gynted â phosibl.  

Lladdwch e  

Golchwch eich dwylo neu defnyddiwch hylif diheintio dwylo.  

Dilynwch ni: