Fel pob meddyginiaeth, gall brechlynnau achosi sgil-effeithiau. Mae hyn oherwydd bod brechlynnau'n gweithio trwy ysgogi ymateb yn eich system imiwnedd. Mae'r rhan fwyaf o sgîl-effeithiau yn rhai ysgafn a thymor byr, ac nid yw pawb yn eu cael.
Mae rhai o'r sgîl-effeithiau mwyaf cyffredin yn ystod y diwrnod neu ddau gyntaf yn cynnwys:
Poen, cleisio, cochni, caledwch neu chwyddo lle cawsoch y pigiad
poenau cyffredinol neu symptomau tebyg i’r ffliw
teimlo'n flinedig
diffyg archwaeth
dolur rhydd
cur pen, ac
twymyn ysgafn.
Efallai y bydd gennych dwymyn ysgafn am ddau neu dri diwrnod ar ôl cael brechlyn. Fodd bynnag, mae tymheredd uchel yn anarferol a gall fod oherwydd bod gennych haint neu salwch arall. Os ydych chi'n poeni, siaradwch â'ch meddyg teulu neu nyrs. Gallwch gymryd paracetamol (dilynwch y cyngor ar y pecyn a pheidiwch â chymryd mwy na'r dos a argymhellir). Dylech orffwys i'ch helpu i deimlo'n well.
Ni fydd y brechlyn ffliw yn rhoi ffliw i chi.
Os yw'n ymddangos bod eich symptomau'n gwaethygu neu os ydych chi'n pryderu, ewchi wefan 111 GIG Cymruneu ffoniwch eich meddygfa. Os cewch gyngor gan feddyg neu nyrs, gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrthyn nhw pa frechlynnau rydych chi wedi'u cael fel y gallan nhw eich asesu'n llawn.
I gael gwybod mwy am y brechlyn, gan gynnwys ei gynnwys a sgil effeithiau posibl,ewch i wefan y crynodeb meddyginiaethau electronig. Bydd angen i chi nodi enw'r brechlyn yn y blwch chwilio.
Dylech roi gwybod am sgil effeithiau a amheuirar-lein drwy wefan rhoi gwybod am y Cerdyn Melyn, drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm).