Mae’r gwasanaeth anhwylderau cyffredin yn rhoi triniaeth a chyngor rhad ac am ddim o’r GIG ar gyfer mân anhwylderau nad oes modd eu trin â hunanofal.
Mae’r gwasanaeth yn rhoi dewis arall i chi yn lle trefnu apwyntiad gyda’ch meddyg teulu i drafod y 26 o gyflyrau canlynol:
|
|
Gall unrhyw glaf sy’n byw yng Nghymru neu sydd wedi cofrestru â meddygfa yng Nghymru ddefnyddio’r gwasanaeth. Rhaid i’r claf allu dod i’r fferyllfa.
Os ydych chi’n dioddef o broblem gyda’ch llygad, dylech fynd i weld optometrydd lleol (optegydd) yn gyntaf am archwiliad o’ch llygad yn rhad ac am ddim. Mae rhestr o optegwyr sy’n cynnig prawf llygaid rhad ac am ddim yma.
Weithiau, bydd rhaid i’r fferyllydd eich atgyfeirio chi at eich meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall os na fydd modd iddo drin eich cyflwr.
Mae’n bosib i feddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall atgyfeirio cleifion neu mae’n bosib iddyn nhw gyfeirio eu hunain. Os ydych chi’n ansicr p’un a ddylech chi ddefnyddio’r gwasanaeth hwn neu fynd i weld eich meddyg, gofynnwch i’r fferyllydd am gyngor.
Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn, rhaid i chi gofrestru â’ch dewis fferyllfa. Gallwch chi gofrestru yn unrhyw fferyllfa a gallwch chi symud i feddygfa arall ar unrhyw adeg os oes angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth.
Byddwch chi’n cael ymgynghoriad cyfrinachol â’r fferyllydd yn ystafell ymgynghori’r fferyllfa. Bydd hyn yn para rhwng 5 a 10 munud fel arfer.
Does dim angen apwyntiad arnoch chi ond mae’n bosib y bydd rhaid i chi aros i weld y fferyllydd os bydd yn brysur.
Bydd gwybodaeth am y cyngor rydych chi wedi ei gael a’r driniaeth fydd ei hangen arnoch chi yn cael ei hanfon at eich meddyg teulu.