O heddiw ymlaen, dydd Llun 17eg Chwefror, rydym yn falch iawn o fod yn ailddechrau gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr.
Dechreuodd y broses o gau ein hunedau mamolaeth a newyddenedigol dros dro ym mis Medi y llynedd er mwyn ein galluogi i wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol. Hefyd, mae prosiect ystadau ar raddfa fawr i ailosod to prif gorff yr ysbyty hefyd ar y gweill.
Er mwyn sicrhau ein bod yn cadw ein holl fenywod, pobl sy’n rhoi genedigaeth a babanod yn ddiogel, rydym yn ailddechrau gwasanaethau fesul cam.
Dychwelodd ein gwasanaeth newyddenedigol i'r ysbyty yr wythnos diwethaf, dydd Llun 10fed Chwefror.
Tra bod gwasanaethau newyddenedigol a mamolaeth bellach yn weithredol, rydym am i deuluoedd fod yn ymwybodol bod gwaith adeiladu’n parhau mewn rhannau eraill o’r ysbyty a gallai hyn achosi rhywfaint o aflonyddwch parhaus, gan gynnwys y ffordd y ceir mynediad i wasanaethau – fe welwch ragor o fanylion am hyn isod.
Gwneir pob ymdrech i leihau'r effaith ar deuluoedd a'u hymwelwyr a byddwn yn parhau i wrando ar eich adborth i wneud eich profiad mor gyfforddus â phosibl.
Dywedodd Cyfarwyddwr Bydwreigiaeth Cwm Taf Morgannwg, Suzanne Hardacre: “Rydym wrth ein bodd yn croesawu ein timau mamolaeth a newyddenedigol yn ôl i Ysbyty Tywysoges Cymru. Rydym yn gwerthfawrogi yn llwyr fod hwn wedi bod yn gyfnod pryderus i’n fenwyod a’n teuluoedd, a hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb yn ein cymunedau am eu hamynedd.
“Hoffwn hefyd ddiolch i’n staff gwych am eu hymrwymiad i ddarparu gofal o’r radd flaenaf yn ystod y cyfnod hwn.”
Cael mynediad i Wasanaethau Mamolaeth
Os ydych chi'n defnyddio neu'n ymweld â gwasanaethau mamolaeth yn YTC yn ystod yr wythnosau nesaf, dilynwch y cyfarwyddiadau syml hyn i lywio drwy'r ysbyty.
Bydd angen i chi fynd i mewn i brif adeilad yr ysbyty i gael mynediad at wasanaethau mamolaeth.
Gallwch hefyd fynd i mewn i'r prif adeilad trwy'r fynedfa ochr chwith ger Clinig Pen-y-bont ar Ogwr.
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich beichiogrwydd, neu os oes gennych unrhyw reswm i fynd i’r ysbyty cyn iddi ail-agor, cysylltwch ag Uned Blaenoriaethau Mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ar 07442 865989. Bydd y fydwraig sy'n derbyn yr alwad yn rhoi cyngor clinigol ac yn eich cyfeirio ymhellach os bydd angen asesiad neu dderbyniad arnoch.
O ddydd Llun 17eg Chwefror, y rhif ffôn cyswllt ar gyfer Uned Blaenoriaethau Mamolaeth Tywysoges Cymru yw: 01656 752309.