Neidio i'r prif gynnwy

Risgiau a ffeithiau

Pan fyddwch chi'n sâl, gall dilyn eich arferion arferol fod yn anodd, ond ceisiwch ddilyn y camau syml isod i helpu i gynorthwyo eich adferiad. 

GALL BWYTA DEIET AMRYWIOL, CYTBWYS DA HELPU I GADW EICH CROEN A’CH ESGYRN MEWN CYFLWR DA AC YN LLAI TEBYGOL O GAEL EU NIWEIDIO.  
MAE ANGEN I NI I GYD GAEL DIGON O GWSG ER MWYN GWELLA AC AROS YN IACH. 
MAE CADW’N WEITHGAR YN YR YSBYTY, A SYMUD PAN ALLWCH CHI, YN BWYSIG I ATAL DATGYFLYRU A LLEIHAU CWYMPIADAU AC WLSERAU PWYSAU. 
BYDD BOD YN YMWYBODOL O’R UCHOD AC AILADRODD BOB DYDD YN EICH HELPU I GADW’N IACH AC I GAEL EICH RHYDDHAU ADREF YN GYFLYMACH. 

Wrth i ni fynd yn hŷn, rydym yn mynd yn fwy agored i niwed. Os yw person dros 80 oed yn treulio 10 diwrnod yn y gwely, mae’n bosibl iddo ef neu hi ddioddef gwerth 10 mlynedd o heneiddio cyhyrau. Gall dim ond 24 awr yn y gwely leihau pŵer cyhyrau o 2.5%. Gall 7 diwrnod leihau pŵer cyhyrau 5-10% (GIG, 2017). Fodd bynnag, drwy ddysgu mwy am risg ac atal yn y daflen hon, gellir lleihau’r risg o ddatgyflyru. 

Dilynwch ni: