Wrth ymweld, anogwch y claf i fwyta ac yfed yn dda, symud o gwmpas a dilyn canllawiau gan y staff.
Helpwch drwy fod yn ymwybodol o risgiau cwympo:
Gwirio ardal y gwely/sedd am rwystrau, mynd ag unrhyw eiddo diangen adref neu eu symud, rhoi gwybod am bryderon ynghylch sefydlogrwydd neu newidiadau ymddygiad, sicrhau bod cloch alw’r claf (os oes ganddyn nhw un), eu sbectol a’u cymhorthion cerdded o fewn cyrraedd.
Helpwch trwy chwilio am symptomau difrod pwysau:
Patsys coch ar groen golau neu batsys glas/porffor ar groen tywyll dros ardaloedd esgyrnog, poen neu anghysur (llosgi/pigo) dros ardaloedd esgyrnog, pothelli, ardaloedd chwyddedig neu groen wedi torri.
Os ydych chi'n teimlo bod angen i'r staff wybod unrhyw wybodaeth bwysig am y claf, rhowch wybod iddyn nhw.
Enw a Chyswllt y Meddyg Teulu
Gwybodaeth Ddefnyddiol Arall
Apwyntiad Nesaf
Dyddiad Adolygu Meddyginiaeth
Ardal wely glir
Cerdded
Adolygiad o foddion
Gwiriad Llygaid a Chlustiau
Gwiriad traed
Prydau iach
Yfed dŵr
Ymarfer corff