Neidio i'r prif gynnwy

Cwympiadau a Risgiau

BETH SY'N DIGWYDD OS BYDDAF YN CWYMPO YN YR YSBYTY 

  •   Byddwch yn cael eich asesu gan y tîm meddygol a nyrsio i nodi'r ffordd orau o'ch symud o'r llawr neu'r ardal lle rydych wedi cwympo ac yna bydd cynllun rheoli yn cael ei roi ar waith i'ch cefnogi i symud o gwmpas yn ddiogel. 

  •   Bydd y tîm meddygol yn eich asesu am unrhyw anafiadau, gall hyn gynnwys profion pellach fel pelydr-x, sgan neu ECG a bydd staff nyrsio yn gwirio eich pwysedd gwaed, curiad y galon ac ymateb cannwyll eich llygaid os oes angen.  

  •  Byddwn yn ceisio sefydlu pam y gwnaethoch syrthio, ac os na allwn ni wneud hynny, byddwn yn eich cyfeirio at wasanaethau neu wybodaeth addas i'ch helpu i leihau eich risg o syrthio lle bo'n briodol.  

  •   Byddwn yn adolygu eich cynllun gofal, a all nodi ymyriadau pellach i leihau'r risg o gwympo, neu newid elfennau o'ch gofal i'ch atal rhag cwympo eto.  

  •   Byddwn yn cwblhau adroddiad digwyddiad gyda holl fanylion y cwymp ac yn hysbysu eich teulu neu ofalwyr cyn gynted â phosibl. 

  •   Os byddwch yn dioddef anaf o ganlyniad i'ch cwymp, byddwn yn ymchwilio i'r hyn a ddigwyddodd er mwyn atal niwed i gleifion yn y dyfodol.  

Nid yw bod yn yr ysbyty yn golygu y gallwn atal cwympiadau'n llwyr, ond fel Bwrdd Iechyd, rydym wedi ymrwymo i leihau nifer y cwympiadau a'r anafiadau sy'n digwydd o ganlyniad. 

Er nad yw'n bosibl atal pob cwymp yn yr ysbyty, drwy weithio gyda'n gilydd gallwn leihau'r siawns y bydd hyn yn digwydd. Mae ymchwil yn dangos y gall gwaith tîm ymhlith meddygon, nyrsys a therapyddion leihau cwympiadau 20-30%. Gallwch chi a'ch teulu helpu trwy fod yn ymwybodol o'r risgiau a'r camau gweithredu y gallwch eu cymryd.  

LLEIHAU RISGIAU CWYMPO

Tra yn yr ysbyty, bydd ein staff yn chwilio am bethau penodol i'ch helpu i gadw'n ddiogel, fel: 

  • Sicrhau y gellir clywed cleifion os oes angen iddynt alw am gymorth. 

  • Cynnal asesiadau golwg syml 

  • Adolygu ac addasu meddyginiaethau os oes angen. 

  • Darparu cymhorthion cerdded os oes angen 

  • Mesur eich pwysedd gwaed yn gorwedd a sefyll. 

  • Adnabod a sgrinio am ddeliriwm ac arwyddion o nam gwybyddol 

  • Cadw eich amgylchedd wrth ochr eich gwely yn glir o annibendod a pheryglon. 

BETH ALLA I EI WNEUD?

  • Dywedwch wrth unrhyw weithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n ymwneud â'ch gofal os ydych chi wedi cwympo yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. 

  • Gwnewch yn siŵr bod eich sliperi yn ffitio'n dda a bod ganddyn nhw afael da 

  • Yfwch yn rheolaidd a bwyta'n dda. Os oes gennych chi ddiffyg chwant bwyd, neu os oes angen cymorth arnoch chi i fwyta ac yfed, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n rhoi gwybod i'r nyrs sy'n gofalu amdanoch chi. 

  • Gwnewch ymarferion coesau syml cyn codi i gael y cylchrediad i fynd. 

  • Eisteddwch i fyny am ychydig eiliadau cyn sefyll a chodwch yn araf. 

  • Peidiwch byth â phwyso ar ddodrefn ysbyty gan ei fod yn aml ar olwynion. 

  • Defnyddiwch eich cymorth cerdded arferol, cadwch ef gerllaw, a chadwch lygad am ôl traul arno. 

  • Gwnewch yn siŵr bod eich sbectol yn lân ac yn cael eu defnyddio yn ôl y cyfarwyddyd. Gofynnwch am help os oes gennych anhawster gweld. 

  • Defnyddiwch eich cloch alw os oes gennych un neu gofynnwch i aelod o staff os oes angen help arnoch i symud, yn enwedig wrth fynd i'r toiled. 

 

Dilynwch ni: