Bwyta - Cysgu - Symud - AiladroddBwytewch ddeiet amrywiol a chytbwys.
Os gallwch chi, bwytewch eich prydau bwyd yn eistedd yn y gadair.
Cliriwch eich bwrdd, agorwch ffenestr os yn bosibl, a golchwch eich dwylo.
Gofynnwch i ymwelwyr ddod â byrbrydau i mewn os ydyn nhw'n fodlon
Dywedwch wrthym os oes angen help arnoch neu os oes gennych unrhyw alergeddau neu ddewisiadau deietegol, neu anghenion o ran gwead bwyd.
Dywedwch wrthym a ydych chi'n defnyddio cyllyll a ffyrc neu gwpanau gwahanol. Gallwn ni gael rhai i chi eu defnyddio.
Cadwch at eich trefn gysgu gystal ag y gallwch.
Dylech osgoi dyfeisiau electroneg a symbylyddion fel caffein cyn mynd i'r gwely.
Rhowch gynnig ar fyfyrdod neu gerddoriaeth cyn cysgu.
Defnyddiwch blygiau clust.
Diffoddwch y golau wrth ochr y gwely.
Symudwch yn rheolaidd yn ystod y dydd a bwyta deiet iach.
Siaradwch â'ch meddyg neu nyrs am broblemau cysgu
Rhannwch eich trefn ddyddiol gyda ni
Os ydych chi'n gallu, golchwch yn yr ystafell ymolchi a gwisgwch eich dillad eich hun.
Os ydych chi’n gallu, sefwch a cherddwch o amgylch y ward neu i'r toiled.
Defnyddiwch deledu'r cleifion / neu ewch i'r ystafell ddydd os yw ar gael ar y ward
Gwnewch symudiadau yn y gadair neu'r gwely (gweler enghreifftiau ar dudalen 10).
Gofynnwch i ymwelwyr ddod ag eitemau o'r cartref: sbectol, cymhorthion clyw, esgidiau, pethau ymolchi
Cadwch eich meddwl yn weithgar trwy ddarllen, siarad ag eraill, gwrando ar gerddoriaeth a gwneud posau.
Mae'n bwysig gwneud yn siŵr eich bod chi'n bwyta’n dda ac yn yfed digon o hylifau i roi egni i chi. Gall bwyta deiet cytbwys ac amrywiol eich helpu i gael yr holl faetholion sydd eu hangen ar eich corff i aros yn gryf ac yn ddiogel ar eich traed. Gall dadhydradu wneud i chi gael pendro, teimlo’n benysgafn ac weithiau'n ddryslyd.
Dylech osgoi yfed alcohol, gan y gallai ymyrryd â'ch meddyginiaeth ac amharu ar eich cydbwysedd a'ch galluoedd gwybyddol.
Yfwch 6-8 gwydraid o ddŵr y dydd. Efallai y bydd angen mwy arnoch os ydych chi'n sâl neu os yw'r tywydd yn gynnes
Os oes gennych chi ddiffyg chwant bwyd neu os ydych chi'n sylwi eich bod chi'n colli pwysau heb geisio, e.e. os ydych chi'n sylwi bod eich dillad yn mynd yn fwy llac, dywedwch wrth aelod o'r tîm sy'n gofalu amdanoch chi, gallant eich cefnogi neu eich cyfeirio at Ddeietegydd os oes angen. Gallwch hefyd ddefnyddio'r offeryn hunan-sgrinio hwn i wirio a oes angen rhywfaint o gymorth ychwanegol arnoch.
www.malnutritionselfscreening.org/self-screening
Am ragor o wybodaeth am fwyta deiet cytbwys i helpu i atal cwympiadau ewch i
www.nhsinform.scot/healthy-living/preventing-falls
Bwytwch fwydydd sy'n llawn calsiwm. Am ragor o wybodaeth
Gallai esgyrn cryfach wneud unrhyw anaf sydd gennych yn llawer llai difrifol, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cael digon o fitamin D - Mae'n anodd cael digon ohono o ddeiet a golau haul yn unig felly ystyriwch gymryd atchwanegiad 10 microgram.
Defnyddiwch wiriwr risg i gael gwybod mwy
www.theros.org.uk/risk-checker
Wrth i ni fynd yn hŷn, gallwn golli ein cryfder a'n cydbwysedd. Gall ymarferion i wella cryfder cyhyrau leihau eich risg o syrthio.
|
|
|
|
|
|
|
Ewch i wefan y GIG am fwy o ymarferion a gwybodaeth www.nhs.uk/live-well/exercise/sitting-exercises/ Gadewch i ni eich cael chi adrefRydym yn deall nad oes neb eisiau bod i ffwrdd o gartref am gyfnod hirach nag sydd ei angen. Bydd y tîm yn dechrau trafod eich cael chi adref o ddechrau eich arhosiad. Bydd hyn yn eich helpu chi a'ch teulu i baratoi ar gyfer dychwelyd adref. Mae risgiau’n gysylltiedig â bod yn yr ysbyty ac felly mae’n bwysig i chi dreulio cyn lleied o amser â phosibl i ffwrdd o gartref. Weithiau gellir rheoli eich gofal meddygol neu adsefydlu gartref. Mae yna wasanaethau cymunedol y gallem argymell eich cyfeirio atynt a all eich cynorthwyo i wella ac adfer gartref. |