Neidio i'r prif gynnwy

LLYFRYN CLEIFION MEWNOL

DADGYFLYRU - EICH CANLLAW I AROS YN IACH YN YR YSBYTY AC ATAL CWYMPIADAU A BRWSERAU PWYSAU

BETH YW DADGYFLYRU?

Datgyflyru yw'r dirywiad mewn gweithrediad corfforol a meddyliol oherwydd anweithgarwch neu orffwys yn y gwely. Gall effeithio ar lawer o systemau yn y corff.  

  • Gall datgyflyru ddigwydd yn yr ysbyty gan ein bod yn aml yn y gwely am lawer o'r amser. Gall yr anweithgarwch hwn arwain at leihau cryfder y cyhyrau ac o ran gallu’r corff i weithredu, risg uwch o gwympo, difrod o friwiau pwyso a cholli cymhelliant. Gall hyn olygu arhosiad hirach yn yr ysbyty, i ffwrdd o gartref. Gall arwain at gael heintiau, colli pwysau, llai o symudedd a Sarcopenia hyd yn oed  Gall rhai pobl fynd yn fwy dibynnol ac angen mwy o ofal ac offer pan fyddant yn gadael yr ysbyty.  

  • Afiechyd y cyhyrau yw sarcopenia sy'n arwain at golli màs cyhyrau, cryfder a gweithrediad gorfforol. Gall eich gwneud yn fwy tebygol o syrthio, dod yn llai abl yn gorfforol a datblygu briwiau pwyso. Mynd yn hŷn yw prif achos sarcopenia, ond gall dioddef nifer o gyflyrau meddygol, peidio â bwyta ac yfed yn dda a bod yn llai actif yn yr ysbyty ei achosi hefyd. Y newyddion gwych yw bod modd atal, trin a gwrthdroi sarcopenia!  

  • Gall dilyn y cyngor yn y daflen hon helpu i leihau eich risg.  

Yng Nghymru, mae gennym air hyfryd: “Cwtsh.” Yn llythrennol, mae'n golygu coflaid, ond mae hefyd yn cyfleu ymdeimlad o ddiogelwch, cynhesrwydd ac amddiffyniad. Mae'n air annwyl, ond yn ein hysbytai, gall y reddf i "gwtsio" ein cleifion, yn enwedig ein rhai hŷn, mwy agored i niwed, ddod â chanlyniadau anfwriadol weithiau. Gall arwain at ddatgyflyru. 

Dilynwch ni: