Mae yna lawer o gyfleoedd dros yr hydref a'r gaeaf i yfed alcohol, boed hynny'n mwynhau'r dathliadau neu'n mynychu gemau rygbi, mae'n bwysig cofio yfed yn gyfrifol.
Mae tua 10 miliwn o bobl yn y DU yn yfed yn rheolaidd mewn ffyrdd a allai niweidio eu hiechyd. O nosweithiau di-gwsg a hwyliau isel i ganolbwyntio llai a mwy o gorbryder, gall alcohol gael effaith sylweddol ar ein bywydau personol a phroffesiynol.
Os hoffech siarad â rhywun am eich defnydd o alcohol, gallwch gysylltu â Thîm Gofal Alcohol CTM: https://bipctm.gig.cymru/gwasanaethau/tim-gofal-alcohol-act/