Mae gofalu am ein lles meddyliol ein hunain, a lles ein hanwyliaid, hyd yn oed yn bwysicach yn ystod misoedd y Gaeaf.
Gall fod yn demtasiwn i dreulio drwy'r dydd yn eich pyjamas, ond mae cael trefn reolaidd yn bwysig ar gyfer eich hunan-werth a hunan-hyder.
Ceisiwch gadw at eich trefn gwsg arferol, cael digon o gwsg fel eich bod yn deffro ac yn teimlo wedi'ch adfywio, a cheisiwch ddechrau eich diwrnod ar yr un pryd bob dydd.
Mae llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd i ddod o hyd i cymhelliant i wneud ymarfer corff yn ystod misoedd y gaeaf, ond gall ymarfer corff rheolaidd roi hwb i'ch hwyliau a rhyddhau endorffinau sy'n gwella sut rydych chi'n teimlo. Cyngor ar gadw'n heini
Mae mor bwysig cadw cysylltiad â'ch anwyliaid, gan fod tystiolaeth yn dangos bod cysylltu ag eraill yn bwysig ar gyfer lles meddyliol. Gwiriwch gyda theulu a ffrindiau a gwnewch amser i sgwrsio am sut rydych chi'n teimlo, neu cymerwch ran mewn gweithgaredd hwyliog gyda'ch gilydd, fel cwis rhithiol. Bydd yr ymdeimlad o gysylltiad yn gwella sut rydych chi'n teimlo.
Mae golau naturiol yn chwarae rhan fawr yn ein lles emosiynol a meddyliol. Wrth i ni fynd trwy nosweithiau tywyll y gaeaf, ceisiwch gofleidio golau dydd cymaint ag y gallwch - agorwch eich llenni a mwynhau'r golau yn eich lle byw. Mae rhai pobl hefyd yn gweld y gall blychau golau helpu i wella eu hwyliau.
Mae cael amser a lle i chi yn bwysig ar gyfer eich lles meddyliol a'ch gwydnwch. Neilltuwch amser i wneud rhywbeth rydych chi'n ei fwynhau, boed hynny'n gwrando ar bodlediad, yn cymryd bath hir neu'n darllen llyfr.
Mae Ymwybyddiaeth Ofalgar yn arf gwych i'ch helpu i ddysgu bod yn fwy caredig â chi'ch hun ac i fod yn fwy parod i dderbyn sut mae pethau. Gall technegau myfyrio ac ymlacio helpu i leihau tensiwn a straen.
Mae bwyta diet iach a chytbwys yn rhan bwysig o gynnal iechyd da a gall eich helpu i deimlo ar eich gorau, yn gorfforol ac yn feddyliol. Mae hyn yn golygu bwyta amrywiaeth eang o fwydydd yn y cyfrannau cywir, yfed ddigon o hylifau, bwyta o leaiaf 5 cyfran o ffrwythau a llysiau y dydd, a gwneud yn siŵr eich fod yn bwyta brecwast. Cyngor ar fwyta'n dda
Gall dysgu crefft neu sgil newydd roi hwb i'ch hunanhyder a rhoi gwir ymdeimlad o gyflawniad i chi. Ceisiwch ymgymryd â rhywfaint o ddysgu y gaeaf hwn fel peintio, lluniadu, coginio rysáit newydd, neu gallech gofrestru ar gwrs hyfforddi ar-lein. Beth bynnag ydyw, gwnewch yn siŵr ei fod yn rhywbeth y byddwch yn ei fwynhau ac y gallwch ei gynnwys yn eich trefn ddyddiol ac o'i amgylch.