Neidio i'r prif gynnwy

Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) a Genomics England yn cynnal astudiaeth i ddeall meddyginiaethau GLP-1 yn well

Ydych chi wedi cael pancreatitis acíwt wrth gymryd meddyginiaeth GLP-1 fel Ozempic (semaglutide) neu Mounjaro (tirzepatide)?  

Mae'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) a Genomics England yn cynnal astudiaeth Biobank y Cerdyn Melyn i ddeall meddyginiaethau GLP-1 yn well. Nod yr astudiaeth yw gwella ein dealltwriaeth o sut y gall cyfansoddiad genetig claf gynyddu ei risg o brofi sgil effeithiau i feddyginiaethau.  

Mae cam presennol y prosiect yn chwilio am bobl sydd wedi cymryd meddyginiaethau GLP-1, naill ai wedi'u rhagnodi gan eu meddyg neu wedi'u prynu'n breifat, i drin diabetes math 2 neu ar gyfer colli pwysau. Efallai eich bod chi'n adnabod y cyffuriau hyn wrth eu henwau brand, fel Wegovy, Ozempic, Saxenda, Bydureon, Byetta, Trulicity, Rybelsus a Mounjaro. 

Mae sgil effeithiau yn rhoi straen mawr ar y GIG ac yn cyfrif am 1 o bob 6 derbyniad i'r ysbyty. Gallai deall pam mae rhai pobl yn profi sgil effeithiau niweidiol helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddefnyddio profion genetig i sicrhau bod cleifion yn derbyn y feddyginiaeth fwyaf diogel iddyn nhw. Mae data diweddar yn awgrymu y gallai profion genetig leihau sgil effeithiau 30%.  

Os ydych chi wedi profi sgil effeithiau, gallwch chi roi gwybod amdanyn nhw drwy lenwi Cerdyn Melyn. Bydd angen i chi ddarparu eich manylion cyswllt a dewis “Ydw” i gael eich cysylltu gan dîm y Biobank. 

Os byddwch yn bodloni meini prawf yr astudiaeth, byddwch yn cael gwahoddiad i ymuno ag astudiaeth y Biobank trwy'ch dull cysylltu dewisol. Yna gofynnir i chi lenwi holiadur amdanoch chi a'ch iechyd a darparu sampl poer gan ddefnyddio pecyn a fydd yn cael ei bostio i'ch cartref. 

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://yellowcard.mhra.gov.uk/biobank  

Gall unrhyw un roi gwybod am broblem gyda meddyginiaeth, brechlyn, dyfais feddygol (gan gynnwys meddalwedd, apiau a deallusrwydd artiffisial), cynnyrch gwaed neu e-sigarét i'r cynllun Cerdyn Melyn. Mae rhagor o wybodaeth yma: Cerdyn Melyn | Gwneud meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol yn fwy diogel