Neidio i'r prif gynnwy

Sut i wneud rhodd

Cronfa Elusennol Gyffredinol GIG Cwm Taf Morgannwg yw'r unig elusen GIG swyddogol (elusen gofrestredig rhif 1049765) ar gyfer Cwm Taf Morgannwg. Mae ein helusen yn helpu i ddarparu’r cymorth a’r gofal gorau oll i holl staff, cleifion a gwirfoddolwyr y GIG ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Pan fyddwch yn rhoi i unrhyw wasanaeth GIG neu ysbyty yng Nghwm Taf Morgannwg, mae’n dod drwy ein helusen ac mae pob ceiniog yn cael ei gwario yn ein cymuned leol. Mae’n cael ei ddefnyddio i ddarparu offer meddygol newydd, adnewyddu ysbytai, adnoddau lles, hyfforddiant staff a rhaglenni iechyd cymunedol y tu hwnt i beth y gall y GIG ei ariannu.

Mae ein Elusen yn defnyddio eich rhoddion caredig i newid bywydau a chefnogi iechyd a lles ein cymunedau Cwm Taf Morgannwg, gyda’n prosiectau yn cael eu dewis gan staff a chleifion eu hunain.

Sut i wneud rhodd

Diolch am ystyried rhodd i’r GIG yng Nghwm Taf Morgannwg, rydym yn ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth.

Mae yna ychydig o ffyrdd y gallwch chi wneud rhodd.

Ar-lein

Rydych chi'n gwneud cyfraniad ar-lein trwy ein tudalen Elusen Just Giving yma:

Cronfa Elusennol Gyffredinol GIG Cwm Taf Morgannwg - JustGiving

Wrth wneud eich rhodd trwy Just Giving, mae'n bwysig iawn eich bod yn dweud wrthym ble yn union yr hoffech i'ch rhodd gael ei defnyddio. Pan rydych chi’n cael eich gofyn i adael neges, rhowch enw'r ysbyty, ward neu wasanaeth yr hoffech ei gefnogi fel y gall ein tîm ei ddyrannu'n gywir. 

Bydd unrhyw roddion heb gyfarwyddiadau yn mynd tuag at ein Cronfa Gyffredinol, a all fod o fudd i holl staff a chleifion BIPCTM, a bydd yn cael ei ddefnyddio lle mae ei angen fwyaf.

Gallwch hefyd ddefnyddio Just Giving i godi arian ar gyfer ein helusen. Cysylltwch â ni os hoffech ragor o wybodaeth am sut i wneud hynny.

Wyneb yn wyneb

Os byddai'n well gennych wneud rhodd yn bersonol, gallwch alw i mewn i'r Swyddfa Gyffredinol neu Adran Weinyddol eich ysbyty lleol. Os gwnewch hyn, gallwch roi arian parod neu siec a bydd aelod o staff yn rhoi derbynneb swyddogol i chi.

Gwelwch y ffurflenni canlynol dylech chi llenwi i gyd-fynd â'ch rhodd:

 Datganiad Cymorth Rhodd.pdf (PDF, 103Kb)

 Derbynneb Rhodd.pdf (PDF, 98Kb) 

Trwy'r post

Mae croeso i sieciau gael eu hanfon drwy’r post ond os oes gennych gyfraniad ariannol, cysylltwch â ni neu drefnwch i dalu hwn i mewn yn un o’n swyddfeydd arian.

Dylai sieciau fod yn daladwy i:

Cronfa Elusennol Gyffredinol GIG Cwm Taf Morgannwg

Os yw'n bosibl, ysgrifennwch yn glir enw'r ysbyty, y ward neu wasanaeth yr ydych am ei gefnogi ar y cefn.

Cofiwch gynnwys nodyn amdanoch chi'ch hun, y rhodd a'ch manylion cyswllt fel y gallwn anfon cadarnhad atoch ein bod wedi derbyn eich rhodd. 
Dylid anfon sieciau at: 

Cronfa Elusennol Gyffredinol GIG Cwm Taf Morgannwg, 
D/O Yr Adran Gyllid, 
Ysbyty Dewi Sant, 

Heol Albert, 
Pontypridd  
RhCT  

CF37 1LB