Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd
Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd
Ar ôl ymgymryd â hyfforddiant arbenigol yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, gweithiodd Philip yn rhyngwladol am nifer o flynyddoedd, cyn dychwelyd adref i Gymru ym mis Hydref 2019. Gwelodd ddyletswydd fel ymgynghorydd diogelu iechyd yn ystod yr ymateb i Covid-19, cyn symud i dîm iechyd cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg, lle arweiniodd ar wella iechyd a phenderfynyddion ehangach iechyd.
Ochr yn ochr â'i waith gwasanaeth, Philip yw Cadeirydd newydd Cyfadran Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru ac mae'n aelod o fwrdd ac ymddiriedolwr Cyfadran Iechyd y Cyhoedd y DU. Mae wedi dysgu'n helaeth ar systemau a pholisi iechyd.
Gyda chrap eang ar draws meysydd iechyd y cyhoedd, mae gan Philip ddiddordeb arbennig mewn sut mae systemau a sefydliadau wedi'u strwythuro ac yn gweithredu i alluogi (neu fel arall) iechyd y boblogaeth.