Prif Weithredwr
Prif Weithredwr
Mae Paul Mears wedi bod yn Brif Weithredwr ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ers mis Medi 2020.
Cyn iddo ddechrau yn y swydd hon, treuliodd Paul 2 flynedd fel ymgynghorydd rheoli annibynnol, lle roedd yn cynghori nifer o gleientiaid yn y sector gofal iechyd cyhoeddus a phreifat, yn ogystal â busnesau gofal iechyd digidol. Roedd hyn yn cynnwys gweithio fel Uwch-gynghorydd i McKinsey & Company. Cyn hynny, roedd Paul yn Brif Weithredwr ar Yeovil District Hospital yng Ngwlad yr Haf, lle sefydlodd y Symphony Programme er mwyn integreiddio gofal ar draws meysydd gofal sylfaenol a’r gwasanaethau ysbyty acíwt a chymunedol. Chwaraeodd Paul ran hollbwysig yn y gwaith o sefydlu Symphony Healthcare Services, sef un o is-gwmnïau gofal sylfaenol Yeovil District Hospital. Mae’r is-gwmni’n gweithredu 12 o feddygfeydd yn ne Gwlad yr Haf ac mae 90,000 o gleifion ar restrau practis eu meddygfeydd. Dechreuodd Paul ei yrfa yn y GIG yn Torbay. Yno, roedd rhan hollbwysig gydag ef yn y gwaith o sefydlu Torbay Care Trust ac arwain busnes gweithredol un o’r sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol cymunedol cyntaf yn Lloegr. Roedd hefyd yn Brif Swyddog Gweithredu yn Torbay Hospital.
Mae diddordeb gyda Paul mewn arloesedd ym maes integreiddio gofal a gofal iechyd digidol, ac mae wedi trafod y materion hyn mewn nifer o ddigwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae ei waith o ddatblygu modelau integredig o ofal wedi ymddangos yn The Financial Times, The Economist a’r Health Service Journal.