Neidio i'r prif gynnwy
Mel Jehu

Cymuned

Amdanaf i

Cymuned

Cafodd Mel ei eni a’i addysgu ym Merthyr Tudful, ac mae wedi byw yng Nghwm Cynon ers dros 40 mlynedd.

Ac yntau wedi gweithio i Heddlu De Cymru am 34 mlynedd, gwasanaethodd yn yr heddlu hyd at safle Prif Gwnstabl Cynorthwyol, ac roedd yn falch o dderbyn sawl gwobr a chanmoliaeth ynghyd â MBE am ei wasanaeth i Dde Cymru. Ers ymddeol, mae wedi arbenigo mewn craffu, llywodraethu a safonau mewn bywyd cyhoeddus, a hynny gyda’r Comisiwn Penodiadau Barnwrol, Panel Trosedd Heddlu De Cymru, y Cyngor Iechyd Cymuned, Deoniaeth Cymru, Cymorth Canser Merthyr Tudful, Merthyr Tudful Mwy Diogel, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Race Council Cymru.

Daeth Mel yn Aelod Annibynnol yn 2016, ac mae'n aelod o'r Pwyllgorau Bwrdd canlynol:

  • Cynllunio, Perfformiad a Chyllid (Cadeirydd)
  • Pobl a Diwylliant
  • Monitro’r Ddeddf Iechyd Meddwl
  • Taliadau a Thelerau Gwasanaeth