Neidio i'r prif gynnwy
Fiona Jenkins

Amdanaf i

Dr Fiona Jenkins yw’r Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro ar gyfer Therapïau a Gwyddorau Iechyd yn BIP Cwm Taf Morgannwg, yn ogystal â’r Cyfarwyddwr Gweithredol ar gyfer Therapïau a Gwyddorau Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.  

Mae ei phortffolio’n cynnwys arweinyddiaeth broffesiynol i tua 4,000 o therapyddion a gwyddonwyr gofal iechyd sydd wedi cofrestru â’r Cyngor Proffesiynau Gofal ac Iechyd, yn ogystal ag amrywiaeth o gyfrifoldebau arwain gweithredol. Fiona yw Pencampwr y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr ar gyfer Caerdydd a’r Fro, ac Arweinydd y GIG ar gyfer y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr yng Nghymru. 

Yn ogystal â hynny, mae hi’n cadeirio Grŵp Cyfamod Lluoedd Arfog Caerdydd a’r Fro, a hi yw cynrychiolydd y GIG yng Ngrŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog dan arweiniad Gweinidogion. Hi hefyd yw’r Uwch-swyddog Cyfrifol am y Rhaglen Ddigideiddio Gofal Llygaid Genedlaethol, yr Uwch-swyddog Cyfrifol am ddatgomisiynu Ysbyty Rookwood ar gyfer Anafiadau i’r Asgwrn Cefn ac ar ran Ymddiriedolwyr Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, yr Uwch-swyddog Cyfrifol am ddatblygu Horatio’s Garden yn Ysbyty Prifysgol Llandochau.  

A hithau’n ffisiotherapydd yn ôl ei galwedigaeth ac yn gymrawd i Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi, mae Fiona wedi gweithio mewn swyddi clinigol a rheoli ac wedi datblygu i fod yn strategydd clinigol gyda phrofiad helaeth o reoli gweithwyr amlbroffesiynol ac o arweinyddiaeth broffesiynol.  

Mae profiad arbenigol gyda hi fel clinigydd, rheolwr, ymchwilydd a golygydd/awdur ym maes adolygu gwasanaethau, darlithydd, a hyfforddwr a mentor ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Mae hi hefyd wedi cynnal adolygiad o wasanaethau Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd yn University Hospital North Midlands (Gogledd a Chanolbarth Swydd Stafford) yn 2016. Yn ogystal â hynny, roedd yn brif siaradwr yng nghynadleddau arweinyddiaeth ym meysydd proffesiynol perthynol i iechyd yn Seland Newydd ac yn Awstralia. Mae hi wedi cynnal 50 a mwy o ddosbarthiadau meistr ledled y DU a Seland Newydd ynghylch pynciau sy’n ymwneud â rheoli ac arwain ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd.  

Bu Fiona hefyd yn Is-lywydd ac yn Aelod o Gyngor Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi, yn ogystal ag yn Stiward Cenedlaethol y Gymdeithas yng Nghymru, a chafodd ei hurddo’n Gydymaith Sefydliad Rheoli Gofal Iechyd. Derbyniodd Fiona MBE yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd yn 2021 am ei gwaith ym maes gofal iechyd