Cadeirydd Dros Dro
Cadeirydd Dros Dro
Cyn ymgymryd â swydd Cadeirydd dros dro yn CTMUHB, Emrys Elias oedd Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac mae ganddo brofiad sylweddol mewn arweinyddiaeth o fewn y GIG.
Ar ôl hyfforddi fel Nyrs Iechyd Meddwl roedd ganddo sawl rôl glinigol a rheolaethol ar lefel weithredol, strategol a Bwrdd hyd nes iddo ymddeol yn 2016 pan oedd yn Gyfarwyddwr Uned Gyflenwi GIG Cymru.
Mae gan Emrys ddiddordeb arbennig mewn gweithio amlasiantaeth ac mae wedi cynnal sawl prosiect ac adolygiadau gwasanaeth cenedlaethol a lleol yn y maes gwaith hwn. Cynghorodd y Llywodraeth hefyd ac ar y cyd arweiniodd yr adolygiad cenedlaethol o Ddull y Rhaglen Gofal Iechyd Meddwl.
Emrys yw Cadeirydd y Pwyllgor Taliadau a Thelerau Gwasanaeth.