Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol
Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol
Mae Dr Dom Hurford wedi bod yn Anesthetydd Ymgynghorol yn CTM ers 10 mlynedd.
Pan ddechreuodd, roedd ganddo ddiddordeb mewn gwaith Arweinwyr Llwybr Anadlu ac Obstetreg, a bu’n gweithio yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty’r Tywysog Siarl am nifer o flynyddoedd. Dros amser, gwnaeth ei ddiddordebau clinigol amrywio a daeth yn anesthetydd fasgwlaidd yn bennaf, gan redeg y gwasanaeth CPET gyda chyd-Anesthetydd o Ysbyty Brenhinol Gwent.
Yn ystod y don COVID gyntaf, ymgymerodd Dom â swydd Cyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol ar gyfer Ansawdd ac Effeithiolrwydd Clinigol yn CTM, a gyda secondiad y Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol, cymerodd Dom yr awenau dros dro gan dreulio llawer o’i amser yn gweithio ar Adolygiadau o Farwolaethau, Moeseg a materion llywodraethu.
Fel Cyfarwyddwr Meddygol, mae Dom yn bwriadu parhau i fod mewn cysylltiad â chleifion a rhoi gofal iddynt fel Anesthetydd.
Mae gan Dom ddiddordeb mewn gofal eiddilwch a gofal fasgwlaidd. Fe yw'r Uwch Swyddog Cyfrifol ar gyfer y Rhwydwaith Fasgwlaidd yn Ne Cymru ac mae'n dal i fod yn Gadeirydd Rhwydwaith Torri Esgyrn Eiddilwch Cymru.
Y tu allan i'r gwaith, mae'n treulio llawer o amser yn rhedeg a gyda'i deulu.