Neidio i'r prif gynnwy
Dilys Jouvenat

Trydydd Sector

Amdanaf i

Trydydd Sector

Mae Dilys wedi gweithio mewn llywodraeth leol am dros 40 mlynedd a, chyn iddi ymddeol, bu’n weithgar yn ei hundeb llafur Unsain am fwy na 30 mlynedd.   

Yn ystod rhan olaf ei gyrfa, bu’n Rheolwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ac roedd wedi gwasanaethu ar Bwyllgor Cymru i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am bum mlynedd. Ar hyn o bryd, mae Dilys yn Gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Cyngor Dinasyddion Rhondda Cynon Taff, ac mae hi'n hynod falch o'r gwaith y mae'r gwirfoddolwyr a'r staff yn ei wneud er budd y rhai mwyaf difreintiedig mewn cymunedau lleol. Mae hi hefyd yn llywodraethwr ysgol ac yn weithgar mewn grwpiau cymunedol lleol, gan gynnwys grŵp casglu sbwriel.

Daeth Dilys yn Aelod Annibynnol yn 2018, ac mae'n aelod o'r Pwyllgorau Bwrdd canlynol:

  • Ansawdd a Diogelwch
  • Digidol a Data (Is-gadeirydd)
  • Pobl a Diwylliant (Cadeirydd)
  • Cronfeydd Elusennol
  • Taliadau a Thelerau Gwasanaeth