Neidio i'r prif gynnwy
Carolyn Donoghue

Prifysgol

Amdanaf i

Prifysgol

Mae Carolyn yn uwch-weithredwr a chyfarwyddwr anweithredol profiadol a medrus iawn, gyda phrofiad sylweddol yn y GIG ac mewn addysg uwch yng Nghymru a Lloegr. A hithau wedi cymhwyso fel nyrs gyffredinol gofrestredig yn wreiddiol, datblygodd hi yrfa glinigol yn ddiweddarach — gan gynnwys cyfnod o amser yng Ngorllewin Awstralia — cyn symud at hyfforddi ac uwch-reoli. Mae Carolyn wedi ymgymryd â sawl uwch-rôl yn y GIG ym Mryste cyn symud at addysg uwch ym Mhrifysgol Bryste, ac yn ddiweddarach ym Mhrifysgol Caerdydd fel Cofrestrydd Coleg.

Erbyn hyn, mae Carolyn wedi datblygu gyrfa bortffolio sy'n cynnwys rôl ynad, Cadeirydd Prosiect Iechyd Meddwl Myfyrwyr De-ddwyrain Cymru, Cadeirydd Canolfan Arloesedd Clwyfau Cymru ac Aelod Annibynnol o Fwrdd y Llywodraethwyr, Prifysgol Gorllewin Lloegr. Yn ogystal â hynny, mae ganddi amrywiaeth o rolau gwirfoddol yn y gymuned leol.

Mae Carolyn yn eiriolwr brwd dros fudd theatr a chorau, ar ôl cymryd rhan mewn dramâu amatur a chorau lleol am flynyddoedd lawer. Yn fwy diweddar, mae hi wrth ei bodd yn cymryd rhan yn Parkrun, boed yn gwirfoddoli neu’n rhedeg.