Mae hyfforddwyr WISE Wellness yn defnyddio technegau ysgogol i gefnogi cleifion, sydd naill ai â chyflwr iechyd cronig neu sydd ar restr aros y GIG, i newid ffactorau ac ymddygiadau ffordd o fyw sy'n effeithio ar iechyd corfforol a meddyliol.
Mae materion fel ynysu, dyled, deiet, gweithgaredd corfforol, rheoli straen, hylendid cwsg, cysylltiad cymdeithasol a lles i gyd yn cael sylw ar y rhaglen lles naw mis.
06/12/2022
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch CTM.WISE@wales.nhs.uk neu ffoniwch ni ar 01685 351 451. Ewch i'n gwefan: bipctm.gig.cymru/wise-ctm