Neidio i'r prif gynnwy

Syndrom Coluddyn Llidus (IBS)

Syndrom Coluddyn Llidus (IBS)

Syndrom coluddyn llidus (IBS)

  • Mae’n achosi symptomau fel crampiau stumog, y bol yn chwyddo, dolur rhydd a rhwymedd. Mae’n tueddu i fynd a dod dros amser, a gall bara am ddiwrnodau, wythnosau neu fisoedd ar y tro.
  • Mae’n broblem gydol oes fel arfer. Gall fod yn rhwystredig iawn i fyw ag ef a gall gael effaith fawr ar eich bywyd bob dydd.
  • Nid oes gwellhad, ond mae newid deiet a meddyginiaeth yn gallu helpu i reoli’r symptomau.
  • Nid ydym yn gwybod yn union beth sy’n ei achosi – mae wedi’i gysylltu â phethau fel bwyd yn pasio drwy eich perfedd yn rhy gyflym neu yn rhy araf, nerfau rhy sensitif yn eich perfedd, straen a hanes teuluol o IBS.

Symptomau syndrom coluddyn llidus (IBS) cyffredin

Prif symptomau IBS yw:

  • crampiau neu boen yn y stumog – fel arfer yn waeth ar ôl bwyta ac yn well ar ôl gwneud pŵ
  • y bol yn chwyddo – efallai y bydd eich bol yn teimlo’n anghyfforddus o lawn ac wedi chwyddo
  • dolur rhydd – efallai y bydd eich pŵ yn ddyfrllyd ac weithiau bydd angen i chi wneud pŵ yn sydyn
  • rhwymedd – efallai y byddwch yn straenio wrth wneud pŵ ac yn teimlo na allwch wacau eich coluddyn yn llwyr

Efallai fydd dyddiau pan fydd eich symptomau yn well a dyddiau pan fyddant yn waeth. Efallai mai bwyd neu ddiod fydd yn achosi hyn.

Beth sy’n gallu achosi symptomau IBS

Gall IBS ddigwydd heb unrhyw reswm amlwg.

Weithiau gall gael ei achosi gan:

  • alcohol
  • caffein
  • bwydydd penodol, fel bwydydd brasterog neu sbeislyd
  • straen a gorbryder

Symptomau eraill IBS

Gall IBS hefyd achosi:

  • gwynt (rhechu)
  • pasio mwcws o’ch pen-ôl
  • blinder a dim egni
  • teimlo’n sâl (cyfog)
  • poen cefn
  • problemau pi-pi – gorfod pi-pi yn aml, angen pi-pi yn sydyn, a theimlo fel na allwch wacau eich pledren yn llwyr
  • peidio gallu rheoli eich pŵ (anymataliaeth y coluddyn)

Ewch i weld meddyg os ydych chi’n credu bod gennych chi IBS

Gall ystyried IBS a gwneud rhai profion i ddiystyru problemau eraill.

I gael rhagor o wybodaeth am Syndrom Coluddyn Llidus (IBS), ewch i'n Gwasanaeth IBS WISE neu wefan GIG 111 Cymru. 

 


Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch CTM.WISE@wales.nhs.uk neu ffoniwch ni ar 01685 351 451. Ewch i'n gwefan: bipctm.gig.cymru/wise-ctm

Cofrestrwch ar gyfer Gwasanaeth WISE

Dychwelyd at Cyflyrau Iechyd