Mae syndrom coesau aflonydd, neu glefyd Willis-Ekbom, yn gyflwr cyffredin sy’n ymwneud â’r system nerfol sy’n achosi ysfa anorchfygol aruthrol i symud y coesau.
Symptomau syndrom coesau aflonydd
Prif symptom syndrom coesau aflonydd yw ysfa aruthrol i symud eich coesau. Gall hefyd achosi teimlad ymlusgol annymunol yn y traed, croth y goes a'r cluniau.
Mae'r teimlad yn aml yn waeth gyda'r hwyr neu yn y nos. Weithiau, mae’n effeithio ar y breichiau hefyd. Mae syndrom coesau aflonydd hefyd yn gysylltiedig â symudiadau herciog anwirfoddol o’r coesau a'r breichiau.
Mae rhai pobl yn cael symptomau syndrom coesau aflonydd yn achlysurol, tra bod eraill yn eu cael bob dydd. Mae’r symptomau yn gallu amrywio o ysgafn i ddifrifol. Mewn achosion difrifol, mae syndrom coesau aflonydd yn gallu achosi llawer o ofid ac amharu ar weithgareddau dyddiol person.
I gael rhagor o wybodaeth am Syndrom Coesau Aflonydd, ewch i wefan GIG 111 Cymru.
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch CTM.WISE@wales.nhs.uk neu ffoniwch ni ar 01685 351 451. Ewch i'n gwefan: bipctm.gig.cymru/wise-ctm