Neidio i'r prif gynnwy

Symptomau na ellir eu hesbonio'n feddygol

Symptomau na ellir eu hesbonio

Mae llawer o bobl yn cael symptomau corfforol parhaus, er enghraifft, pendro neu boen, sydd ddim, i bob golwg, yn symptomau o gyflwr meddygol.

Gelwir y rhain yn “symptomau na ellir eu hesbonio’n feddygol” weithiau pan maen nhw’n para am fwy nag ychydig wythnosau, ond nad yw meddygon yn gallu dod o hyd i broblem yn ymwneud â’r corff a allai fod yn eu hachosi.

Dydy hyn ddim yn golygu bod y symptomau’n cael eu ffugio neu eich bod “yn dychmygu pethau” – maen nhw’n ddilys ac maen nhw’n gallu effeithio ar eich gallu i fyw eich bywyd.

Mae methu deall beth sy’n achosi’r symptomau hyn yn gallu eu gwneud hyd yn oed yn fwy trallodus ac anodd ymdopi â nhw.

Pan mae symptomau anodd eu hadnabod yn ymddangos fel pe baen nhw’n cael eu hachosi gan broblemau yn y system nerfol ond nad oes gennych gyflwr niwrolegol penodol, efallai y bydd meddygon yn cyfeirio at eich symptomau fel 'anhwylder niwrolegol gweithredol'.

Mae enghreifftiau o symptomau o’r fath yn cynnwys y canlynol:

  • pinnau bach yn y dwylo neu'r traed
  • cryndod yn un o’r breichiau neu’r ddwy
  • cur pen neu feigryn
  • newidiadau yn eich golwg, fel golwg aneglur neu weld goleuadau’n fflachio

Mae symptomau na ellir eu hesbonio’n feddygol yn gyffredin, gydag oddeutu 1 o bob 4 o bobl sy’n gweld meddyg teulu â symptomau corfforol nad oes modd eu hesbonio.

Achosion posibl symptomau na ellir eu hesbonio’n feddygol

Mae llawer o bobl sydd â symptomau na ellir eu hesbonio’n feddygol, fel blinder, poen a chrychguriadau’r galon, hefyd yn dioddef o iselder neu orbryder.

Mae trin problem seicolegol gysylltiedig yn aml yn gallu lleddfu'r symptomau corfforol.

I eraill, mae’r symptomau’n gallu bod yn rhan o syndrom nad yw pobl yn deall digon amdano, er enghraifft:

  • syndrom blinder cronig (CFS) – a elwir hefyd yn ME
  • syndrom coluddyn llidus (IBS)
  • ffibromyalgia (poen dros y corff i gyd)

Nid yw'r ffaith nad yw meddygon yn gallu dod o hyd i gyflwr sy'n achosi'r symptomau hyn yn anghyffredin mewn meddygaeth, ac nid yw'n golygu na ellir gwneud dim i'ch helpu.

I gael rhagor o wybodaeth am Symptomau na ellir eu hesbonio'n feddygol, ewch i wefan GIG 111 Cymru.

 


Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch CTM.WISE@wales.nhs.uk neu ffoniwch ni ar 01685 351 451. Ewch i'n gwefan: bipctm.gig.cymru/wise-ctm

Cofrestrwch ar gyfer Gwasanaeth WISE

Dychwelyd at Cyflyrau Iechyd