Neidio i'r prif gynnwy

Niwropathi Perifferol

Niwropathi Perifferol

Mae niwropathi perifferol yn datblygu pan fydd difrod i'r nerfau yn y dwylo, y traed a'r breichiau. Mae'r symptomau yn dibynnu ar ba nerfau sydd wedi'u heffeithio.

Yn ôl yr amcan yn y DU, mae niwropathi perifferol yn effeithio ar bron i 1 o bob 10 o bobl 55 oed neu hyn.

Y system nerfol berifferol

Y system nerfol berifferol yw'r rhwydwaith o nerfau y tu allan i'r prif system nerfol (yr ymennydd a madruddyn y cefn).

Mae'n cynnwys mathau gwahanol o nerfau, gyda'u swyddogaethau penodol eu hunain, gan gynnwys:

  • y nerfau synhwyraidd – sy'n gyfrifol am drosglwyddo synhwyrau, fel poen a chyffyrddiad
  • y nerfau echddygol – sy'n gyfrifol am reoli'r cyhyrau
  • y nerfau awtonomig – sy'n gyfrifol am reoleiddio gweithrediadau awtomatig y corff, fel pwysedd gwaed a' gweithrediad y bledren

Symptomau niwropathi perifferol

Gall prif symptomau niwropathi perifferol gynnwys:

  • fferdod a theimlad gogleisiol yn y traed neu'r dwylo
  • poen llosgi neu wayw yn y mannau sydd wedi'u heffeithio
  • colli cydbwysedd a chydsymud
  • gwendid cyhyrol, yn enwedig yn y traed

Mae'r symptomau hyn yn gyson fel arfer, ond gallant fynd a dod.

Pryd i fynd i weld eich meddyg teulu

Mae'n bwysig mynd i weld eich meddyg teulu os cewch symptomau cynnar niwropathi perifferol, fel:

  • poen, teimlad gogleisiol neu golli teimlad yn y traed
  • gwendid neu golli cydbwysedd
  • clwyf neu wlser ar eich troed, ac nid yw'n gwella

Hefyd, argymhellir bod y bobl â risg fwyaf niwropathi perifferol, fel pobl â diabetes, yn cael archwiliadau rheolaidd.

Bydd eich meddyg teulu yn gofyn am eich symptomau a gall drefnu rhai profion i helpu darganfod yr achos sylfaenol.

Gallwch gael eich atgyfeirio i ysbyty i weld niwrolegydd, sef arbenigwr ar broblemau iechyd sy'n effeithio ar y system nerfol.

Yn gyffredinol, gorau po gyntaf y gwneir diagnosis o niwropathi perifferol er mwyn cael gwell siawns o gyfyngu ar y difrod ac atal cymhlethdodau pellach.

I gael rhagor o wybodaeth am Niwropathi Perifferol, ewch i wefan GIG 111 Cymru

 


Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch CTM.WISE@wales.nhs.uk neu ffoniwch ni ar 01685 351 451. Ewch i'n gwefan: bipctm.gig.cymru/wise-ctm

Cofrestrwch ar gyfer Gwasanaeth WISE

Dychwelyd at Cyflyrau Iechyd