Mae rhai dynion yn profi iselder, colli ysfa rywiol, diffyg ymgodol a symptomau corfforol ac emosiynol eraill pan maen nhw’n cyrraedd eu 40au hwyr a’u 50au cynnar.
Dyma symptomau eraill sy’n gyffredin ymysg dynion yr oedran hwn:
Mae'r symptomau hyn yn gallu amharu ar fywyd bob dydd a hapusrwydd, felly mae’n bwysig dod o hyd i’r achos sylfaenol a chanfod beth y gellir ei wneud i’w ddatrys.
A oes y fath beth â ‘menopos dynion’?
Mae “menopos dynion” (sy’n cael ei alw’n andropos weithiau) yn derm di-fudd sy’n cael ei ddefnyddio weithiau yn y cyfryngau.
Mae’r label hwn yn gamarweiniol oherwydd mae’n awgrymu mai canlyniad cwymp sydyn mewn testosteron wrth gyrraedd canol oed yw’r symptomau, sy’n debyg i’r hyn sy’n digwydd adeg y menopos mewn menywod. Dydy hyn ddim yn wir.
Er bod lefelau testosteron yn gostwng wrth i ddynion heneiddio, mae’r gostyngiad yn digwydd yn raddol - llai na 2% y flwyddyn - o tua 30 i 40 oed ymlaen, ac mae hyn yn annhebygol o achosi unrhyw broblemau ynddo’i hun.
Weithiau, mae diffyg testosteron sy’n datblygu’n ddiweddarach mewn bywyd, a elwir hefyd yn hypogonadiaeth sy’n dechrau’n hwyr, yn gallu bod yn gyfrifol am y symptomau hyn, ond mewn llawer o achosion nid yw’r symptomau’n gysylltiedig â hormonau mewn unrhyw ffordd.
Problemau personol neu faterion sy’n ymwneud â ffordd o fyw
Mae ffactorau sy’n ymwneud â ffordd o fyw neu broblemau seicolegol yn aml yn gyfrifol am lawer o’r symptomau hyn.
Er enghraifft, mae diffyg ymgodol, colli libido a newid mewn hwyliau yn gallu digwydd oherwydd y canlynol:
Mae diffyg ymgodol hefyd yn gallu digwydd oherwydd ystyriaethau corfforol, er enghraifft, newidiadau yn y pibellau gwaed, sy’n gallu digwydd ochr yn ochr ag unrhyw achos seicolegol.
Mae problemau seicolegol fel arfer yn cael eu hachosi gan broblemau sy’n ymwneud â gwaith neu berthynas, ysgariad, problemau ariannol neu oherwydd bod rhywun yn poeni am rieni sy’n heneiddio.
Gall “argyfwng canol bywyd” hefyd fod yn gyfrifol. Mae hyn yn gallu digwydd pan fydd dynion yn meddwl eu bod wedi cyrraedd cyfnod hanner ffordd eu bywyd.
Mae pryderon ynghylch yr hyn y maen nhw wedi’i gyflawni hyd yma, naill ai yn eu gwaith neu yn eu bywyd personol, yn gallu arwain at gyfnod o iselder.
Dyma rai o’r pethau eraill sy’n gallu achosi “menopos dynion”:
I gael rhagor o wybodaeth am Menopos Dynion, ewch i wefan GIG 111 Cymru.
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch CTM.WISE@wales.nhs.uk neu ffoniwch ni ar 01685 351 451. Ewch i'n gwefan: bipctm.gig.cymru/wise-ctm