Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae bod dros bwysau a gordewdra yn gyflwr meddygol lle ceir croniad annormal neu ormodol o fraster y corff, sy'n peri risg i iechyd.
Yng Nghymru:
Mae llawer o achosion cymhleth a gall pob achos chwarae ei ran. Deall beth sy’n achosi i bobl fagu pwysau yw'r cam cyntaf wrth fynd ati i reoli pwysau. Mae hyn yn gallu eich helpu i weithredu. Efallai ei fod yn rhywbeth y gallwch chi ei wneud eich hun neu fel teulu.
Os ydych chi wedi bod yn ei chael hi’n anodd rheoli eich pwysau chi neu bwysau eich plentyn ers peth amser neu'n teimlo bod angen cymorth ychwanegol arnoch, bydd eich meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol yn gallu helpu. Gallan nhw helpu trwy eich cefnogi chi neu'ch plentyn ac ymchwilio i unrhyw broblemau iechyd cysylltiedig. Yna gall y ddau ohonoch chi lunio cynllun rheoli.
Amrediad pwysau
Mae Mynegai Màs y Corff (BMI) yn un mesur sylfaenol o bwysau ac iechyd sy’n cael ei ddefnyddio ym maes gofal iechyd. Mae BMI yn cael ei fesur trwy gyfrifo pwysau person (mewn cilogramau) wedi'i rannu â'i daldra (mewn metrau) wedi'i sgwario. Dydy BMI ddim yn cael ei ddefnyddio ar ei ben ei hun i wneud diagnosis o ordewdra gan fod angen ystyried ffactorau eraill, fel eich rhywedd, ethnigrwydd, cyfansoddiad y corff ac oedran.
Oedolion
Ar gyfer y rhan fwyaf o oedolion, mae BMI o:
Gallwch chi ddefnyddio cyfrifiannell pwysau iach BMI i weithio allan eich BMI.
Plant a Phobl Ifanc
Mae mesur BMI mewn plant yn fwy cymhleth gan ei fod yn newid wrth iddyn nhw dyfu ac aeddfedu. Mae siartiau canraddau BMI yn cael eu defnyddio i ddangos a yw plant a phobl ifanc o dan bwysau neu dros bwysau ar gyfer eu hoedran drwy gymharu eu BMI â BMI plant eraill o'r un oedran a rhywedd. Mae gwahanol siartiau canraddau ar gyfer bechgyn a merched.
I gael rhagor o wybodaeth am Gordewdra, ewch i wefan GIG 111 Cymru.
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch CTM.WISE@wales.nhs.uk neu ffoniwch ni ar 01685 351 451. Ewch i'n gwefan: bipctm.gig.cymru/wise-ctm