Neidio i'r prif gynnwy

Gorbryder

Gorbryder

Teimlad o anesmwythder yw gorbryder, fel pryder neu ofn, a all fod yn ysgafn neu'n ddifrifol.

Mae pawb yn cael teimladau o orbryder o bryd i'w gilydd yn ystod eu bywydau. Er enghraifft, efallai y byddwch yn poeni ac yn teimlo'n bryderus ynghylch sefyll arholiad, neu gael prawf meddygol neu gyfweliad ar gyfer swydd. 

Ar adegau fel hyn, mae teimlo'n bryderus yn berffaith normal.

Ond mae rhai pobl yn ei chael hi'n anodd rheoli eu pryderon. Bydd eu teimladau o orbryder yn fwy cyson ac, yn aml, gallant effeithio ar eu bywyd pob dydd.

Gorbryder yw prif symptom sawl cyflwr, gan gynnwys:

  • anhwylder panig
  • ffobiâu, fel agoraffobia neu glawstroffobia
  • anhwylder straen wedi trawma
  • anhwylder gorbryder cymdeithasol (ffobia cymdeithasol)

Mae'r wybodaeth yn yr adran hon yn ymwneud â chyflwr penodol o'r enw anhwylder gorbryder cyffredinol (GAD).

Cyflwr hirdymor yw GAD sy'n gwneud i chi deimlo'n orbryderus am ystod eang o sefyllfaoedd a materion, yn hytrach nag am un digwyddiad penodol.

Bydd pobl sy'n dioddef GAD yn teimlo'n orbryderus bron bob dydd ac, yn aml, byddant yn cael trafferth cofio'r tro diwethaf yr oeddent yn teimlo'u bod wedi ymlacio.

Cyn gynted ag y bydd un meddwl pryderus yn cael ei ddatrys, gallai un arall ymddangos am fater gwahanol.

Symptomau anhwylder gorbryder cyffredinol (GAD)

Gall GAD achosi symptomau seicolegol (meddyliol) a chorfforol.

Mae'r rhain yn amrywio o un unigolyn i'r llall, ond gallant gynnwys:

  • teimlo'n anesmwyth neu'n bryderus 
  • cael trafferth canolbwyntio neu gysgu
  • pendro neu grychguriadau'r galon

Pryd i gael cymorth i ymdopi â gorbryder

Er bod teimladau o orbryder yn hollol normal o bryd i'w gilydd, dylech fynd i weld eich meddyg teulu os bydd gorbryder yn effeithio ar eich bywyd pob dydd neu'n achosi gofid i chi.

Bydd eich meddyg teulu yn holi am eich symptomau a'ch pryderon, eich ofnau a'ch emosiynau er mwyn ceisio darganfod a allech fod yn dioddef GAD.

I gael rhagor o wybodaeth am Iselder, ewch i'n tudalen Lles Meddyliol, neu wefan GIG 111 Cymru

 


Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch CTM.WISE@wales.nhs.uk neu ffoniwch ni ar 01685 351 451. Ewch i'n gwefan: bipctm.gig.cymru/wise-ctm

Cofrestrwch ar gyfer Gwasanaeth WISE

Dychwelyd at Cyflyrau Iechyd