Neidio i'r prif gynnwy

Clefyd yr iau brasterog di-alcohol

Clefyd yr au brasterog di-alcohol

Clefyd yr iau brasterog di-alcohol yw’r term a ddefnyddir am amrywiaeth o gyflyrau a achosir gan groniad o fraster yn yr iau. Fel arfer, gwelir hyn mewn cleifion sydd dros eu pwysau neu sy’n ordew.

Nid yw clefyd yr iau brasterog di-alcohol fel arfer yn achosi unrhyw niwed yn y cyfnod cynnar, ond gall arwain at niwed difrifol i’r iau, gan gynnwys sirosis, os bydd yn gwaethygu.

Mae bod â lefelau uchel o fraster yn eich iau hefyd yn gysylltiedig â risg gynyddol o broblemau iechyd difrifol, er enghraifft diabetes, pwysedd gwaed uchel a chlefyd yr arennau.

Os oes gennych ddiabetes eisoes, mae clefyd yr iau brasterog di-alcohol yn cynyddu eich siawns o ddatblygu problemau â’r galon.

Os caiff ei ganfod yn gynnar a’i reoli yn gynnar, mae’n bosibl atal y clefyd rhag gwaethygu a lleihau faint o fraster sydd yn eich iau.

I gael rhagor o wybodaeth am Clefyd yr iau brasterog di-alcohol, ewch i wefan GIG 111 Cymru

 


Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch CTM.WISE@wales.nhs.uk neu ffoniwch ni ar 01685 351 451. Ewch i'n gwefan: bipctm.gig.cymru/wise-ctm

Cofrestrwch ar gyfer Gwasanaeth WISE

Dychwelyd at Cyflyrau Iechyd