Neidio i'r prif gynnwy

Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD)

anhwylder straen wedi trawma (PTSD) 

Mae anhwylder straen wedi trawma (PTSD) yn anhwylder gorbryder sy'n cael ei achosi gan ddigwyddiadau hynod o ingol, brawychus neu drallodus.

Yn aml, mae rhywun â PTSD yn ail-fyw'r digwyddiad trawmatig trwy hunllefau ac ôl-fflachiau, a gallai brofi teimladau o arwahanrwydd, natur flin ac euogrwydd.

Gall gael problemau'n cysgu hefyd, fel anhunedd, a'i chael yn anodd canolbwyntio.

Yn aml, mae'r symptomau hyn yn ddigon difrifol a pharhaus i gael effaith sylweddol ar fywyd yr unigolyn o ddydd i ddydd.

Achosion PTSD

Mae'r math o ddigwyddiadau sy'n gallu achosi PTSD yn cynnwys:

  • damweiniau ffordd difrifol
  • ymosodiadau personol treisgar, fel ymosodiadau rhywiol, mygio neu ladrata
  • problemau iechyd difrifol
  • profiadau wrth eni plant

Gall PTSD ddatblygu yn syth ar ôl i rywun brofi digwyddiad annymunol, neu gall ddigwydd wythnosau, misoedd neu hyd yn oed flynyddoedd yn ddiweddarach.

Amcangyfrifir bod PTSD yn effeithio ar ryw 1 o bob 3 o bobl sy'n cael profiad trawmatig, ond nid yw'n glir pam yn union mae rhai pobl yn datblygu'r cyflwr, a phobl eraill ddim yn ei ddatblygu.

PTSD Cymhleth

Gall pobl sy'n profi sefyllfaoedd trawmatig dro ar ôl tro, fel esgeulustra difrifol, camdriniaeth neu drais, gael diagnosis PTSD cymhleth.

Gall PTSD cymhleth achosi symptomau tebyg i PTSD, ac efallai na fyddant yn datblygu nes blynyddoedd ar ôl y digwyddiad.

Yn aml, mae'n fwy difrifol os cafodd y trawma ei brofi'n gynnar mewn bywyd, oherwydd gall hyn effeithio ar ddatblygiad plentyn.

Pryd i geisio cyngor meddygol

Mae'n arferol profi meddyliau gofidus a dryslyd ar ôl digwyddiad trawmatig, ond mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwella'n naturiol dros ychydig o wythnosau.

Dylech chi fynd i weld meddyg teulu os ydych chi neu'ch plentyn yn cael problemau o hyd, tua 4 wythnos ar ôl y profiad trawmatig, neu os yw'r symptomau yn drafferthus iawn.

Os bydd angen, gall eich meddyg teulu eich cyfeirio at arbenigwyr iechyd meddwl i gael asesiad pellach a thriniaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD), ewch i wefan GIG 111 Cymru

 


Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch CTM.WISE@wales.nhs.uk neu ffoniwch ni ar 01685 351 451. Ewch i'n gwefan: bipctm.gig.cymru/wise-ctm

Cofrestrwch ar gyfer Gwasanaeth WISE

Dychwelyd at Cyflyrau Iechyd