Mae anhwylder panig yn anhwylder gorbryder, pan fyddwch yn cael pyliau sydyn o banig neu ofn yn rheolaidd.
Mae pawb yn cael teimladau o bryder a phanig ar brydiau. Mae'n ymateb naturiol i sefyllfaoedd peryglus neu anodd.
Fodd bynnag, i bobl ag anhwylder panig, gall teimladau o orbryder, straen a phanig ddigwydd yn rheolaidd ac ar unrhyw adeg, yn aml heb reswm amlwg.
Symptomau anhwylder panig
Gorbryder
Teimlad o anesmwythyd ydy gorbryder. Gall fod yn ysgafn neu'n ddybryd, a gall cynnwys teimladau o bryder ac ofn. Panig yw'r ffurf fwyaf difrifol o orbryder.
Gallech ddechrau osgoi rhai sefyllfaoedd am eich bod yn ofni iddynt sbarduno pwl arall o banig.
Gall hyn greu cylch o fyw "mewn ofn ofn". Gall ychwanegu at eich ymdeimlad o banig ac achosi i chi gael mwy o byliau.
Pyliau o banig
Cewch bwl o banig pan fydd eich corff yn profi llif o symptomau meddyliol a chorfforol dwys. Gall ddechrau'n sydyn iawn, heb reswm amlwg.
Gall pwl o banig achosi llawer o ofn a phryder.
Mae symptomau'n cynnwys:
Bydd y rhan fwyaf o byliau o banig yn para rhwng 5 ac 20 munud. Yn ôl y sôn, mae rhai pyliau o banig yn para hyd at awr.
Bydd nifer y pyliau a gewch yn dibynnu ar ba mor ddifrifol ydy eich cyflwr. Bydd rhai pobl yn dioddef un neu ddau bwl bob mis, tra bydd eraill yn eu dioddef sawl gwaith bob wythnos.
Er bod pyliau o banig yn frawychus, nid ydynt yn beryglus. Ni fydd pwl yn achosi unrhyw niwed corfforol i chi ac y mae hi'n annhebyg y cewch chi eich derbyn i'r ysbyty os cewch chi bwl o banig.
Cofiwch y gall y rhan fwyaf o'r symptomau hyn fod yn symptomau cyflyrau neu broblemau eraill hefyd, felly efallai nad pwl o banig byddwch chi'n ei gael bob amser.
Er enghraifft, gallech gael curiad calon cyflym iawn os oes gennych bwysedd gwaed isel.
Pryd i gael cymorth
Os cewch chi symptomau anhwylder panig, ewch at eich meddyg teulu.
Bydd yn gofyn i chi ddisgrifio'ch symptomau, pa mor fynych maen nhw'n digwydd, ac ers pa bryd rydych chi wedi'u cael.
Hefyd, gall gynnal archwiliad corfforol i allu diystyru cyflyrau eraill a all fod yn achosi'ch symptomau.
Er y gall siarad â rhywun arall am eich teimladau, eich emosiynau a'ch bywyd personol fod yn anodd weithiau, ceisiwch beidio teimlo'n rhy bryderus neu chwithig.
Gallech gael diagnosis o anhwylder panig os profwch chi byliau panig annisgwyl dro ar ôl tro a bod o leiaf mis o bryderu neu bendroni am ddioddef pyliau pellach yn dilyn y rhain.
I gael rhagor o wybodaeth am Anhwylder Panig, ewch i wefan GIG 111 Cymru.
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch CTM.WISE@wales.nhs.uk neu ffoniwch ni ar 01685 351 451. Ewch i'n gwefan: bipctm.gig.cymru/wise-ctm