Eich gwybodaeth – Eich hawliau – Beth mae angen i chi ei wybod
Mae’r dudalen hon yn esbonio pam mae GIG Cymru yn casglu gwybodaeth amdanoch chi a sut gallai’r wybodaeth hon gael ei defnyddio.
Pam mae GIG Cymru yn casglu gwybodaeth amdanoch chi?
I'ch helpu chi
Mae llawer o sefydliadau yn y GIG, fel ysbytai, meddygfeydd, deintyddion, optegwyr a fferyllwyr cymunedol yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i bobl Cymru.
Bwriad y bobl sy’n darparu’r gwasanaethau hyn yw darparu gofal o’r ansawdd uchaf i chi. Er mwyn gwneud hyn, rhaid iddyn nhw gadw cofnodion am eich iechyd ac unrhyw driniaeth neu ofal maen nhw’n ei ddarparu i chi. Mae’r GIG yn cadw eich gwybodaeth ar gofnod ysgrifenedig neu gyfrifiadurol, ac weithiau ar y ddwy ffurf. Mae’r cofnodion hyn yn helpu i lywio a rheoli’r gofal rydych chi’n ei gael.
Mae hyn yn sicrhau’r canlynol:
Pan fyddwn ni’n casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, byddwn ni’n sicrhau ei bod yn cael ei phrosesu yn unol ag o leiaf un o’r seiliau cyfreithiol sydd ar gael i ni o dan ddeddfwriaeth diogelu data. Pan fydd angen, mae’n bosib y byddwn ni’n prosesu eich gwybodaeth bersonol naill ai gyda’ch caniatâd neu pan fydd y gyfraith yn ein galluogi ni i wneud hynny. Er enghraifft, pan fydd rhwymedigaeth gyfreithiol gyda ni fel awdurdod cyhoeddus a/neu wrth gynnal ein swyddogaethau neu gyflawni tasg er budd y cyhoedd.
Mae’n bosib y byddwch chi’n cael gofal gan sefydliadau sydd ddim yn rhan o GIG Cymru, fel y gwasanaethau cymdeithasol neu ddarparwyr iechyd a gofal cymdeithasol preifat neu wirfoddol. Os felly, mae’n bosib y bydd angen rhannu rhywfaint o wybodaeth amdanoch chi fel bod pawb sydd ynghlwm wrth eich triniaeth neu ofal yn gallu cydweithio er eich lles chi.
Os ydych chi’n preswylio yng Nghymru ac wedi cael triniaeth gan ddarparwr gofal y GIG yn Lloegr, bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo yn ôl i GIG Cymru er mwyn ei dilysu a’i chyfuno gyda’r wybodaeth amdanoch chi sy’n cael ei chadw yng Nghymru. Bydd y wybodaeth honno’n cael ei defnyddio gan yr Ymddiriedolaeth/Bwrdd Iechyd er mwyn eich adnabod chi a dilysu pa ofal gafodd ei ddarparu.
Pryd bynnag y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio, bydd GIG Cymru yn ei chadw’n gwbl gyfrinachol. Byddwn ni’n sicrhau’r canlynol:
Byddwn ni’n cadw eich gwybodaeth bersonol cyhyd ag y bydd ei hangen fel y gallwn ni ddarparu ein gwasanaethau a sicrhau ein bod ni’n darparu gofal o’r ansawdd uchaf i chi. Byddwn ni’n cadw eich gwybodaeth yn unol â’n gofynion cyfreithiol ac yn unol â’r gyfraith. Pan na fydd angen eich gwybodaeth mwyach, byddwn ni’n sicrhau ein bod ni’n cael gwared arni mewn modd diogel. Mae rhagor o wybodaeth am sut mae'r BIP yn trin ac yn prosesu'r holl gofnodion yn unol â'r gofynion cyfreithiol, y codau ymarfer a'r canllawiau a gyhoeddir gan awdurdodau perthnasol, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig, i Lywodraeth Cymru a Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn ein polisi rheoli cofnodion.
Fel sy’n cael ei nodi yn y polisi, rydyn ni wedi mabwysiadu’r cyfnodau cadw a nodir yn Nghod Ymarfer y GIG ar Reoli Cofnodion (nodir manylion yn Amserlenni Cadw'r BIP ar gyfer Cofnodion Iechyd a Chofnodion nad ydyn nhw’n ymwneud ag Iechyd). Gan fod cyfnodau cadw yn amrywio yn ôl y math o gofnod, mae amserlen chwiliadwy i'ch helpu i ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
I helpu GIG Cymru
O bryd i’w gilydd, gall eich gwybodaeth helpu i weithredu a gwella GIG Cymru drwy ei defnyddio i wneud y canlynol:
Os bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio, bydd yr holl wybodaeth bersonol yn cael ei dileu pryd bynnag y bydd hynny’n bosib. Pan na fydd hyn yn bosib, mae rheolau a chytundebau ar waith i sicrhau bod gwybodaeth cleifion yn ddiogel a’i bod yn cael ei defnyddio mewn modd sy’n cydymffurfio â’r gyfraith.
Weithiau, bydd yn rhaid i ni ddefnyddio sefydliadau y tu hwnt i GIG Cymru i ddarparu gwasanaethau gwybodaeth, er enghraifft er mwyn cynnal system gyfrifiadurol neu archwilio. Pan fydd hyn yn digwydd, rhaid i’r sefydliadau allanol hyn gadw at reolau llym y GIG o ran diogelwch eich gwybodaeth.
I helpu pobl eraill
Mae’n bosib y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio i helpu i warchod a gwella iechyd pobl eraill ac i helpu i greu gwasanaethau newydd. Bydd hyn yn unol â chyfreithiau diogelu data bob amser.
Pan fydd angen ac er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith, mae’n bosib y bydd yn rhaid i’r bobl sydd ynghlwm wrth eich gofal roi gwybodaeth bersonol i rai sefydliadau, er enghraifft os bydd clefyd heintus gyda chi a allai beryglu diogelwch pobl eraill (e.e. meningitis acíwt, y pas neu’r frech goch).
Mae angen gwybodaeth ar rai gwasanaethau i gynnal ymchwil meddygol ac i gael gwybod sut mae afiechydon yn datblygu. Bydd hyn yn sicrhau’r canlynol:
Pryd bynnag y bydd yn bosib, bydd eich gwybodaeth yn ddienw a phan fydd angen manylion adnabod, bydd rheolau cyfrinachedd llym ar waith.
Cyfreithiau Diogelu Data a’ch hawliau
Mae yna gyfreithiau sy’n rhoi hawliau penodol i bobl o ran prosesu eu gwybodaeth bersonol. Yn y maes iechyd, mae’r rhain yn cynnwys yr hawl i:
Nid yw pob un o hawliau’r unigolyn dan gyfreithiau diogelu data yn ddiamod. Byddwn ni’n ceisio bodloni unrhyw gais gennych pan fo’n bosibl, ond efallai bydd yn rhaid i ni gadw neu brosesu eich gwybodaeth bersonol yn unol ag un neu fwy o’n swyddogaethau cyfreithiol.
I ddilyn unrhyw rai o’r hawliau hyn, gweler y manylion cyswllt ar ein gwefan neu siaradwch â derbynnydd am fwy o wybodaeth.
Rhannu’ch gwybodaeth
Mae llawer o sefydliadau yn y GIG, fel ysbytai, meddygfeydd, deintyddion, optegwyr a fferyllwyr cymunedol yn darparu gwasanaethau gofal iechyd.
Bwriad y bobl sy’n darparu’r gwasanaethau hyn yw darparu gofal o’r ansawdd uchaf i chi. Er mwyn gwneud hyn, rhaid iddyn nhw gadw cofnodion ynglŷn â’ch iechyd ac unrhyw driniaeth neu ofal maen nhw’n eu darparu i chi.
Maen nhw’n cymryd y cyfrifoldeb i warchod eich gwybodaeth yn ddifrifol iawn. Mae staff GIG Cymru o dan ddyletswydd gyfreithiol i gadw eich gwybodaeth yn gyfrinachol, yn gywir ac yn ddiogel bob amser ac maen nhw wedi cael hyfforddiant i drin eich gwybodaeth yn gywir ac i ddiogelu eich preifatrwydd.
Mae’n bosib y bydd angen rhannu eich gwybodaeth gyda phobl a sefydliadau yn y GIG sy’n gyfrifol am ddarparu triniaeth a gofal i chi. Er enghraifft, gallai eich deintydd rannu eich gwybodaeth gyda meddyg mewn ysbyty fel bod modd iddo roi triniaeth bellach i chi neu gallai ysbyty rannu gwybodaeth am eich moddion gyda’ch fferyllydd cymunedol ar ôl i chi gael eich rhyddhau er mwyn iddo gynnal adolygiad o’ch moddion.
Lle mae’n berthnasol i wneud hynny, mae’n bosibl y byddwn ni’n rhannu eich gwybodaeth â sefydliadau eraill sy’n ymwneud yn uniongyrchol ag iechyd, addysg, diogelwch, atal troseddu a lles cymdeithasol (gan gynnwys nifer cyfyngedig o sefydliadau trydydd sector). Mae rhagor o wybodaeth am y data hwn yn cael ei ddarparu yng Nghytundeb Cymru ar Rhannu Gwybodaeth Bersonol.
Er mwyn darparu gofal, mae angen i ni hefyd rannu eich data gyda sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau i ni (er enghraifft ein darparwyr storio data cwmwl neu ddarparwyr systemau
cyfrifiadurol). Bydd y rhain i gyd yn sefydliadau y mae gennym ni gontractau a mesurau cyfreithiol yn eu lle gyda nhw i ddiogelu eich hawliau unigol.
Gallwn ni hefyd rannu eich gwybodaeth bersonol â thrydydd partïon os ydym o dan ddyletswydd i ddatgelu neu rannu eich data personol er mwyn cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol, neu er mwyn gorfodi neu gymhwyso ein telerau defnyddio a chytundebau eraill; neu i amddiffyn ein hawliau, eiddo, neu ddiogelwch ein cwsmeriaid, neu eraill.
Cyfreithiau diogelu data: Ein sail gyfreithiol ar gyfer casglu, cadw a defnyddio eich gwybodaeth
Fel corff sector cyhoeddus, rydym yma i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd a lles i chi. Mae cyfraith diogelu data yn nodi seiliau (neu ‘amodau’) cyfreithiol cyfreithlon amrywiol sy’n caniatáu i ni gasglu, cadw a defnyddio eich gwybodaeth bersonol, sef
Mae cyfraith diogelu data yn cydnabod rhai “categorïau arbennig” o wybodaeth bersonol, sef gwybodaeth sy’n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig, barn wleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol, aelodaeth o undeb llafur, gwybodaeth enetig, gwybodaeth fiometrig ar gyfer adnabod person yn unigryw, gwybodaeth yn ymwneud ag iechyd, a gwybodaeth am fywyd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol person. Ystyrir bod y categorïau arbennig hyn yn arbennig o sensitif
ac felly byddwn ond yn casglu ac yn defnyddio’r wybodaeth hon pan fo un neu fwy o’r amodau canlynol yn berthnasol:
Y Wybodaeth Rydym yn ei Chasglu
Gwybodaeth y gallwn ei chasglu amdanoch ac o ble y daw?
Mae’r Bwrdd Iechyd yn cadw ac yn cofnodi gwybodaeth amdanoch chi gan gynnwys: -
Gwybodaeth rydym yn ei chael o ffynonellau eraill
Rydyn ni’n gweithio'n agos gyda sefydliadau eraill, fel cyrff eraill y GIG, sefydliadau academaidd a darparwyr gofal cymdeithasol, ac efallai y byddwn ni’n derbyn gwybodaeth amdanoch oddi wrthynt. Rydym hefyd yn rhannu gwybodaeth gyda thrydydd partïon sy'n darparu gwasanaethau i ni, fel darparwyr dadansoddeg a darparwyr gwybodaeth chwilio.
Os ydych chi’n byw yng Nghymru ac wedi cael triniaeth gan ddarparwr gofal y GIG rywle arall yn y Deyrnas Unedig, bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo yn ôl i GIG Cymru er mwyn ei dilysu a’i chyfuno â’r wybodaeth amdanoch chi sy’n cael ei chadw yng Nghymru. Bydd y wybodaeth honno’n cael ei defnyddio gan yr Ymddiriedolaeth/Bwrdd Iechyd er mwyn eich adnabod chi a dilysu pa ofal gafodd ei ddarparu. Rydym yn Casglu
Defnydd o'r wefan hon ac Olrhain Defnyddwyr
Dydyn ni ddim yn casglu gwybodaeth bersonol am ddefnyddwyr y wefan. Pan fyddwch chi’n darparu data sy’n datgelu pwy ydych chi ar y wefan hon yn wirfoddol (gan gynnwys ffurflenni adborth, tanysgrifiadau neu holiaduron), dim ond er mwyn ymateb i’ch ymholiadau ac at y diben arfaethedig y bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio. Dydyn ni ddim yn rhannu gwybodaeth defnyddwyr y wefan gyda thrydydd partïon.
Rydyn ni’n monitro gweithgarwch defnyddwyr er mwyn gwella’r cynnwys ar y wefan. Mae Google Analytics (gwefan allanol) yn wasanaeth rhad ac am ddim gan Google (gwefan allanol) sy’n creu ystadegau manwl am yr ymwelwyr â gwefan.
Ymhlith y wybodaeth sy’n cael ei chasglu mae tudalennau sy’n cyfeirio / tudalennau gadael, patrymau clicio, tudalennau mwyaf / lleiaf poblogaidd, hyd sesiynau, nifer yr ymwelwyr, math o borwr, system weithredu, ac ati. Mae gwybodaeth yn cael ei chasglu gan ddefnyddio cwcis.
Rhagor o Wybodaeth
Mae taflenni ar gael sy’n rhoi mwy o fanylion i chi ynglŷn â sut rydyn ni’n rheoli eich gwybodaeth a’r hawliau sydd gyda chi mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol sydd gyda ni amdanoch chi. Hysbysiad Preifatrwydd sy'n addas i blant
Gofynnwch i aelod o’r staff am gopi neu mae modd lawrlwytho’r fersiwn electronig isod.
Os oes unrhyw bryderon gyda chi ynglŷn â’r ffordd mae eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio, gallwch chi drafod y rhain â’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy’n gyfrifol am eich gofal neu â’n Swyddog Diogelu Data. Dyma fanylion cyswllt Swyddog Diogelu Data Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:
Swyddog Diogelu Data
Bwrdd Iechyd Prifysgol
Cwm Taf Morgannwg Tŷ Ynysmeurig
Navigation Park
Abercynon
CF45 4SN
E-bost: informationgovernancedepartment@wales.nhs.uk
Ffôn: 01443 744800 a gofynnwch am y Swyddog Diogelu Data.