Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos Elusennau Cymru 2026: Cefnogi Gofal gan y GIG Ledled Cwm Taf Morgannwg

Yn rhan o Wythnos Elusennau Cymru 2026, rydym yn cymryd eiliad i ddangos rôl Elusen GIG CTM a'r gwahaniaeth mae haelioni lleol yn ei wneud ledled ein hysbytai a'n gwasanaethau cymunedol.

Mae Elusen GIG CTM yn codi arian i gefnogi gofal gan y GIG ledled Cwm Taf Morgannwg. Mae pob rhodd yn aros yn lleol ac yn helpu i ariannu gwelliannau ymarferol sy'n gwneud gwahaniaeth amlwg i gleifion, teuluoedd a staff y GIG ledled Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.

Mae'r Elusen yn bodoli i helpu gofal GIG fynd ymhellach, ble a phryd y mae hynny ar ei bwysicaf.

Sut mae'r Elusen yn helpu
Mae Elusen GIG CTM yn gweithio ochr yn ochr â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i ariannu gwelliannau sy'n gwella profiadau gofal bob dydd.

Rydym yn cefnogi:

  • Cleifion a theuluoedd, yn enwedig ar adegau bregus.
  • Staff y GIG, y mae eu lles yn sail i ofal o ansawdd uchel
  • Mannau, offer a’r amgylchedd sy'n gwella cyfforddusrwydd a pharch.

Mae ariannu elusennol yn aml yn cefnogi newidiadau ystyrlon, ymarferol. Lle mwy llonydd. Gwell offer. Lle i'r staff ymlacio. Ar gyfer y bobl sydd eu hangen, mae'r newidiadau hyn yn bwysig.

Un enghraifft ddiweddar yw Ystafell Ellis yn Ysbyty’r Tywysog Siarl. Mae'r ystafell ymdrochi newydd hyfryd hon yn helpu i wneud yr Adran Argyfwng Paediatrig yn lle mwy llonydd a chysurus i blant a theuluoedd pan fydd angen gofal arnynt fwyaf.

Trwy ddefnyddio golau rhyngweithiol, sain a phrosiectio, mae'r ystafell yn trawsnewid amgylchedd clinigol yn lle meddal ac ymgysylltiol gyda’r nod o leihau gorbryder a gorlethu synhwyraidd. Ysbrydolwyd y prosiect gan brofiad byw staff ac roedd yn bosibl trwy godi arian yn y gymuned. Mae'r prosiect yn dangos beth ellir ei gyflawni pan fydd cefnogaeth elusennol, timau GIG a chymunedau lleol yn gweithio gyda'i gilydd.

Mae'n un o lawer o enghreifftiau o sut gall gwneud y pethau bychain trwy haelioni arwain at newid ystyrlon a pharhaol.

 

Sut allwch chi gefnogi hyn
Mae llawer o ffyrdd y gall unigolion, teuluoedd, grwpiau cymunedol a busnesau gefnogi Elusen GIG CTM.

Gallwch:

  • Wneud rhodd i gyd-fynd â gwasanaethau lleol y GIG.
  • Codi arian ar gyfer ward, adran neu achos sy'n agos at eich calon
  • Cefnogi ymgyrch neu fenter gymunedol
  • Gadael anrheg er cof neu er mwyn dathlu anwylyd.

Gall yr holl bethau uchod gael eu gwneud trwy dudalen JustGiving benodol elusen GIG CTM.

Visitwch ein tudalen JustGiving elusen CTM NHS i gyfrannu neu ddechrau eich taith codi arian.

Pan fyddwch chi'n rhoi i Elusen GIG CTM:

  • Bydd eich rhodd yn cefnogi ysbytai a gwasanaethau lleol y GIG.
  • Bydd eich cyfraniad yn aros yng Nghwm Taf Morgannwg
  • Byddwch chi'n helpu i ariannu gwelliannau sydd o fudd i gleifion, teuluoedd a staff.
  • Byddwch yn dod yn rhan o gymuned sy'n helpu i gryfhau gofal GIG yng Nghymru.

Mae eich cefnogaeth yn ei gwneud yn bosibl i'r Elusen ariannu prosiectau na fyddai'n bosibl fel arall, gan wella profiadau gofal ledled ein cymunedau.

Mae Wythnos Elusennau Cymru yn gyfle i gydnabod y rôl hanfodol y mae elusennau'r GIG yn ei chwarae wrth gryfhau gofal y GIG ledled Cymru. Mae hefyd yn gyfle i ddiolch i bawb sy'n cefnogi Elusen GIG CTM  a'r pethau da sy’n digwydd o’u herwydd.

Am fwy o wybodaeth am Elusen GIG CTM, cysylltwch â Thîm yr Elusen drwy ein tudalen gyswllt fan hyn.

13/02/2026