Nicola Prygodzicz, Prif Weithredwr BIP Aneurin Bevan, Paul Mears Prif Weithredwr BIP Cwm Taf Morgan, Eluned Morgan MS, Prif Weinidog, Jeremy Miles MS Ysgrifennydd y Cabinet Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Vicky Le Grys Cynllunio Strategol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Mae adeiladu cyfleuster gofal iechyd mawr newydd ar gyfer y De-ddwyrain wedi dechrau'n swyddogol, gyda seremoni “torri tir” a fynychwyd gan Brif Weinidog Cymru Eluned Morgan a Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Mae'r digwyddiad yn nodi cam allweddol wrth adeiladu Parc Iechyd Llantrisant, datblygiad arwyddocaol a fydd yn trawsnewid mynediad at ddiagnosteg a gofal wedi’i gynllunio ar draws y rhanbarth.
Mae'r parc iechyd newydd, ger Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Rhondda Cynon Taf, yn cael ei ddarparu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg mewn partneriaeth â byrddau iechyd Caerdydd a'r Fro ac Aneurin Bevan. Mae'n fuddsoddiad mawr mewn seilwaith modern y GIG ac yn ddull cydweithredol i ddiwallu’r galw cynyddol am ofal iechyd.
Yn cael ei adeiladu gan gwmni adeiladu gofal iechyd MTX, bydd cam cyntaf y prosiect yn gweld creu Canolfan Diagnosteg Gymunedol o'r radd flaenaf, gan gynnig gwasanaethau ganio MRI a CT, endosgopi a phrofion hanfodol eraill. Disgwylir i'r cyfleuster ehangu capasiti, lleihau amseroedd aros a gwella profiad y claf ledled De-ddwyrain Cymru.
Dywedodd Paul Mears, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Mae Parc Iechyd Llantrisant yn gam cyffrous ymlaen i wasanaethau gofal iechyd yn Ne-ddwyrain Cymru.”
“Drwy ddod â gwasanaethau ynghyd mewn cyfleuster pwrpasol, byddwn yn gwella mynediad, lleihau oedi a sicrhau profiad gwell i gleifion ledled y rhanbarth.”
Bydd y parc iechyd hefyd yn cynnwys cyfleusterau hyfforddi i gefnogi datblygiad y gweithlu gofal iechyd, gan helpu i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor gwasanaethau.
Unwaith y bydd wedi'i gwblhau, disgwylir i Barc Iechyd Llantrisant chwarae rhan ganolog wrth ddarparu diagnosis cyflymach, triniaeth fwy effeithlon a chanlyniadau gwell i gleifion, gan leddfu'r pwysau ar safleoedd ysbytai presennol.
Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan: “Mae Parc Iechyd Llantrisant yn fuddsoddiad mawr yn ein GIG, a fydd yn rhoi hwb i’r capasiti profi ac yn ei gwneud hi’n haws ac yn gyflymach i bobl gael asesiadau’n agosach at adref.
“Yn dilyn y buddsoddiad ychwanegol rydym wedi’i ddarparu a gwaith caled staff y GIG, rydyn ni newydd weld gostyngiad sydd wedi torri pob record yn rhestrau aros y GIG, sydd bellach ar eu lefel isaf ers bron i chwe blynedd.”
“Bydd Parc Iechyd Llantrisant, ynghyd â buddsoddiadau eraill yn ein hystâd GIG, yn helpu i wella mynediad at ofal a lleihau amseroedd aros ymhellach.”
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles: "Rwy'n falch iawn o weld gwaith yn dechrau ar y prosiect mawr hwn, sy'n dangos ein hymrwymiad i adeiladu GIG sy'n gweithio i bawb yng Nghymru.
“Drwy ddod â thri bwrdd iechyd ynghyd, rydym yn cymryd camau ymarferol i leihau amseroedd aros a gwella gofal cleifion i bawb yn Ne-ddwyrain Cymru.”
“Bydd y ganolfan hefyd yn hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o staff y GIG, gan sicrhau bod clinigwyr yn cael eu hyfforddi i ddefnyddio offer o’r radd flaenaf a fydd yn gwneud ein GIG yn gryfach nawr ac yn y dyfodol.”
Mae'r seremoni torri tir yn nodi'r trawsnewid o gynllunio i adeiladu, a bydd y datblygiad yn garreg filltir i ofal y GIG yn y dyfodol yn Ne-ddwyrain Cymru.
27/03/2026