Neidio i'r prif gynnwy

Rhannwch eich barn ar fodel y dyfodol ar gyfer Gwasanaethau Dementia Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn ar draws CTM

Mae gan fyrddau iechyd gyfrifoldeb i ddarparu gwasanaethau dementia iechyd meddwl i bobl hŷn.

Defnyddir y term 'dementia' i ddisgrifio syndrom a all gael ei achosi gan nifer o afiechydon lle mae dirywiad cynyddol mewn sawl maes gweithrediad, gan gynnwys dirywiad yn y cof, rhesymu, sgiliau cyfathrebu a'r gallu i gyflawni gweithgareddau dyddiol. Gall pobl hefyd ddatblygu symptomau ymddygiadol a seicolegol fel iselder, seicosis ac ymddygiad ymosodol.

Os oes unrhyw un yn poeni am golli cof yn ein cymuned, rydym yn annog pobl i siarad â’u meddyg teulu – mae llawer o gefnogaeth a help ar gael. 

Mae Cwm Taf Morgannwg wedi cynnal adolygiad o’i wasanaethau dementia iechyd meddwl i bobl hŷn.

Edrychodd yr adolygiad ar:

  • Sut mae ein gwasanaethau'n cael eu darparu ar hyn o bryd i gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia;
  • Y cymorth sydd ar gael i bobl sy’n byw gyda dementia ar draws ein rhanbarth; a
  • Sut mae ein gwasanaethau’n cymharu â gwasanaethau eraill ledled Cymru a’r DU ehangach o ran arfer gorau. 

Nododd yr adolygiad fod gwasanaethau dementia iechyd meddwl i bobl hŷn yn cael eu darparu’n wahanol iawn ar draws sawl rhan o Gymru a’r DU, gyda chanlyniadau gwahanol i bobl sy’n byw gyda dementia.

Dweud eich dweud

Mae ein poblogaeth hŷn yn cynyddu a bydd llawer mwy o alw am ein gwasanaethau dementia iechyd meddwl yn y dyfodol.

Rydym am sicrhau bod pobl sy’n byw gyda dementia, yn awr ac yn y dyfodol, yn cael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, ar yr adeg iawn, ac yn y lle iawn.

Ar hyn o bryd, mae ein gwasanaeth yn cael ei ddarparu mewn lleoliadau gofal dydd, ond rydym yn gwahodd ein cymunedau i rannu eu barn ar 'wasanaeth cymunedol peripatetig' arfaethedig yn y dyfodol.

 

Beth yw Gwasanaeth Cymunedol Peripatetig?

Mae gwasanaeth cymunedol peripatetig yn wasanaeth hyblyg; yn hytrach na darparu cymorth a gofal mewn lleoliad sefydlog, bydd gwasanaeth cymunedol peripatetig yn teithio o amgylch rhanbarth Cwm Taf Morgannwg, gan gyrraedd gwahanol leoliadau i gefnogi unigolion i fyw'n annibynnol yn y gymuned.

Byddai'r gwasanaeth ar gael mewn nifer o leoliadau gan gynnwys cartrefi a lleoliadau cymunedau.

Y nod wrth symud i Wasanaeth Cymunedol Peripatetig ar gyfer Cwm Taf Morgannwg yw cynyddu faint o gymorth arbenigol sydd ar gael i bobl sy’n byw gyda dementia, i gefnogi pobl i fyw’n dda yn eu cymuned, cyhyd â phosibl.

Cyfleoedd ymgysylltu â'r cyhoedd – rhannwch eich barn

Bydd cyfnod ymgysylltu o 10 wythnos yn rhedeg o 9.00 y.b ddydd Mawrth 16 Gorffennaf 2024 tan 5.00 y.p ddydd Llun 23 Medi 2024.

Arolwg

Rhowch adborth i ni trwy gwblhau'r arolwg ar-lein trwy'r ddolen hon

Fel arall gallwch lenwi'r ffurflen a'i hanfon atom naill ai:

Ysbyty Glanrhyd
Clinig Angleton
Heol Tondu

Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 4LN

Os ydych yn postio'ch arolwg, rhowch y teitl i'ch post: - Gwasanaethau Dementia Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn

Mae fersiwn argraffadwy o'r arolwg ar gael yma.

Sesiynau Ymgysylltu â'r Cyhoedd

Mae ein bwrdd iechyd wedi trefnu nifer o gyfarfodydd ymgysylltu yn ystod y cyfnod ymgysylltu, yn cynnwys defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr, perthnasau a sefydliadau partner gan gynnwys awdurdodau lleol a’r sector gwirfoddol a chymunedol. 

Gall pobl hefyd fynychu sesiynau ymgysylltu â’r cyhoedd cyffredinol ar-lein, lle gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cynnig a gofyn unrhyw gwestiynau ar y dyddiadau canlynol:

Ar-lein trwy Teams

  • 10:00 yb i 11:00 yp, dydd Gwener 2 Awst 2024
  • 16:00 yp i 17:00 yp, dydd Mawrth 3 Medi 2024 

Os hoffech ymuno ag un o’r sesiynau ar-lein hyn, anfonwch e-bost atom ynCTM.MHLD.ServiceEngagement@wales.nhs.uk a byddwn yn anfon dolen atoch ar gyfer y sesiwn.

Ffyrdd eraill o rannu eich adborth

Cyfrannu at unrhyw sgyrsiau drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol y Bwrdd Iechyd.

Gallwch hefyd e-bostio unrhyw adborth atom ar: CTM.MHLD.ServiceEngagement@wales.nhs.uk

Os hoffech chi rannu unrhyw adborth yn wyneb yn wyneb, ysgrifennwch atom yn CTM.MHLD.ServiceEngagement@wales.nhs.uk a byddwn yn gwneud trefniadau gyda chi.

Gwybodaeth Ategol

Mae’r canlynol wedi’u cynhyrchu i ddarparu mwy o wybodaeth am wasanaethau dementia iechyd meddwl i bobl hŷn ac i chi roi eich barn i ni am y gwasanaethau hyn a beth sydd angen ei ystyried wrth gynllunio gwasanaethau.

Papur Briffio Gwasanaethau Dementia Iechyd Meddwl Oedolion Hŷn