PENTREFWYR CAREDIG yn mynd allan o’u ffordd i helpu aelodau sy’n agored i niwed a’r henoed yn eu cymuned yn ystod pandemig COVID-19.
A bydd y prosiect unigryw hwn, Pwll Gerddi Lee, (Lee Gardens Pool) yn gallu helpu hyd yn oed rhagor o bobl yn y dyfodol gan fod disgwyl i brosiect ailddatblygu gwerth £500,000 fod wedi’i gwblhau erbyn yr haf. Mae’r cyfan yn cael ei ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, gyda chymorth gan Gynllun Cymunedau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi a Deddf yr Eglwys yng Nghymru.
Dan arweiniad Diane Locke, sy'n athrawes sydd wedi ymddeol, a phwyllgor gweithgar, gyda chymorth gan wirfoddolwyr, mae'r elusen wedi'i chanoli o amgylch pwll awyr agored poblogaidd a Chanolfan yr Henoed ym Mhenrhiw-ceibr, Rhondda Cynon Taf.
Gan weithio’n agos â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg – ac i gefnogi ymgyrch Llywodraeth Cymru Helpwch Ni i’ch Helpu Chi gan annog y cyhoedd i ysgafnhau’r baich ar staff y GIG a defnyddio’r gwasanaethau’n ddiogel y gaeaf hwn – maen nhw’n cynnal nifer o raglenni a gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn.
O fwydo’r teulu, boreau coffi a sesiynau galw heibio i’r criw garddio, ffonio ffrind, celf ar ôl yr ysgol a gofal mewn argyfwng, prif flaenoriaeth y pwyllgor yw trechu problemau yn ymwneud ag iechyd meddwl, tlodi ac unigedd.
Mae'r gwirfoddolwyr hefyd yn dosbarthu nwyddau misglwyf a hen wisgoedd ysgol i'r rhai hynny sydd eu hangen, a diolch i arian grant, roedd modd iddyn nhw brynu ffonau symudol i drigolion oedrannus er mwyn iddyn nhw wybod am y digwyddiadau Gweu a Sgwrsio poblogaidd yn ystod y cyfnod clo.
Mae'r grŵp wedi dod ymhell ers yr ymgyrch i godi arian a cheisiadau llwyddiannus am arian grant. O ganlyniad, ail-agorwyd y pwll yn 2016, dair blynedd ar ôl iddo gau oherwydd toriadau yng ngwariant y cyngor.
Ers hynny, gyda chymorth grant, maen nhw wedi gallu hyfforddi pobl ifanc i ddod yn achubwyr bywyd, a chafodd pump ohonyn nhw waith gydag adran hamdden yr awdurdod lleol. Ar ben hynny, mae gwersi nofio a gwersi achubwyr bywyd ar gael am ddim i blant.
“Ein prif flaenoriaeth nawr yw’r gwaith adnewyddu, a dylai gael ei gwblhau’n fuan. Mae hwn yn rhan o gynllun pum mlynedd ehangach sydd gyda ni i wella ac ehangu ein gwasanaethau,” dywedodd Diane.
“Safle adeiladu sydd yno ar hyn o bryd, ond mae llawer o gynnydd wedi’i wneud ac ni allwn aros i weld y canlyniad yn y pen draw. O ganlyniad, bydd modd i ni ailddechrau gwersi nofio am ddim, hyfforddiant i achubwyr bywyd a chroesawu ymwelwyr yn ôl o Benrhiw-ceibr a thu hwnt.
“Ymysg y gwelliannau mae’r pwll ei hun, ystafell gyfarfod a thoiledau newydd. Nid y cyfleusterau’n unig sydd o bwys, ond mae’n ymwneud â sicrhau dyfodol cynaliadwy a hirdymor i Bwll Gerddi Lee, fel bod modd i genedlaethau o deuluoedd a phobl oedrannus ei fwynhau am amser maith.”
Ychwanegodd Joanne Neads, sy’n ymddiriedolwr: “Does dim byd wedi ein rhwystro ni, nid hyd yn oed y pandemig, a phan oedd rhaid i bethau fynd ar-lein, fe wnaethon ni fanteisio ar hynny. Ymatebodd ein defnyddwyr rheolaidd gyda phlant a rhieni yn yr un modd drwy ymuno â chelf trwy gyswllt Zoom tra roedd ein grŵp Gweu a Sgwrsio yn cadw mewn cysylltiad drwy ffôn symudol.
“Mae defnyddio Canolfan yr Henoed ym Mhenrhiw-ceibr wedi bod yn hanfodol i ni, gan ei bod wedi darparu safle i ni i allu cynnal ein gweithgareddau tra bod y pwll ei hun yn cael ei adeiladu. Oherwydd y cyfleuster hwn, rydyn ni’n gallu cymryd atgyfeiriadau gan y Swyddog Lles sydd wedi’i leoli yn y feddygfa ac oddi wrth yr awdurdod lleol.”
Roedd eu hagwedd gadarnhaol a’u gallu i addasu yn amlwg dros gyfnod y Nadolig wrth i ginio Nadolig gael ei goginio a’i ddosbarthu i bentrefwyr mewn partneriaeth â The Feel Good Factory. Ar ben hynny, rhoddwyd pecynnau lles a chrefft a pharseli bwyd wythnosol i’r bobl fwyaf anghenus, wedi’u cyfeirio gan ysgolion lleol a gyda chymorth Eglwys Santes Gwenfrewi.
Gyda chyrsiau addysg ar y gweill a mwy o wirfoddolwyr yn ymuno â nhw, yn ôl Diane mae pawb mewn hwyliau bywiog wrth i'r gwanwyn agosáu.
“Pwll Gerddi Lee yw canolbwynt y pentref. Mae pobl o bob oed a chefndir yn elwa ohono, ac o safbwynt iechyd a lles, mae wedi bod o gymorth mawr i sawl un ohonyn nhw, yn enwedig yn ystod Covid,” meddai.
“Rydyn ni’n gwrando ar beth sydd ei eisiau ar ein cymunedau, ac rydyn ni’n cydweithio â nhw i’w gyflawni. Rydyn ni yma yw hynny 24/7, ac os oes unrhyw beth cadarnhaol wedi dod o’r ddwy flynedd ddiwethaf, yr ymdeimlad o ysbryd tîm sydd wedi’i ddangos gan bawb yma.”
Canmolodd Yr Athro Kelechi Nnoaham, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Prifysgol Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, Diane a’r pwyllgor am eu hymrwymiad i wella iechyd y bobl leol.
“Mae’n hyfryd gweld sut mae pobl Penrhiw-ceiber wedi dod ynghyd i gefnogi lles meddwl ac iechyd corfforol ei gilydd,” dywedodd.
“Mae’r gwaith mae Diane a’r pwyllgor yn ei wneud yn enghraifft wych o sut gall cymunedau helpu ei gilydd i fyw bywydau iachach. Mae hon yn flaenoriaeth bwysig i’n Bwrdd Iechyd hefyd.
“Gyda’n partneriaid a’n cymunedau rhanbarthol, rydyn ni’n cael sgwrs am CTM 2030: Mae Ein Hiechyd, Ein Dyfodol, yn gofyn beth mae iechyd da yn ei olygu i’n boblogaeth leol wrth iddyn nhw fyw eu bywydau.
“Nod ein gwaith tuag at strategaeth sefydliadol newydd ar gyfer CTM yw sicrhau bod pobl o bob oed yn cael y cyfleoedd gorau i fyw bywydau hapus ac iach, yn ogystal â mynediad at wasanaethau o ansawdd uchel sy’n fforddiadwy, yn effeithlon, yn gynaliadwy, ac yn anad dim, yn ddiogel.
Am yr wybodaeth ddiweddaraf am Bwll Gerddi Lee yn ogystal â newyddion amdano, ewch i www.leegardenspool.co.uk.
Os oes angen cymorth arnoch chi y gaeaf hwn, cysylltwch â llinell gymorth GALWADAU’R GIG am glust i wrando a chefnogaeth emosiynol gyfrinachol. Mae'r llinellau ar agor 24/7 ar 0800 132 737, neu tecstiwch ‘help’ i 81066.
Defnyddiwch yr hashnodau #HelpuNiHelpuChi a #HelpUsHelpYou i gefnogi'r ymgyrch Helpwch Ni i’ch Helpu chi.
Mae gan Pwll Gerddi Lee un swydd llawn amser a ariennir ar hyn o bryd gan Ymddiriedolaeth Iechyd y Bobl a TNLCF. Mae dod o hyd i gyllid i ariannu’r swydd hon yn frwydr barhaus ac mae'r grŵp bob amser yn chwilio am gefnogwyr posibl i gynnal y rôl hanfodol hon. E-bostiwch leegardenspool@yahoo.co.uk am ragor o wybodaeth.