Mae partneriaeth gymunedol a arweinir gan Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM) wedi cael ei chydnabod yn genedlaethol am ei gwaith i wella’r gyfran o bobl sy’n cael ei brechu a diogelu cymunedau lleol.
Mae Gweithgor Cymunedol BIPCTM ar gyfer Brechiad a Diogelu Iechyd wedi ennill Gwobr Tîm Brechu yn Achub Bywydau, gan gydnabod ei dull cydweithredol o gefnogi pobl ar draws Cwm Taf Morgannwg.
Wedi’i ffurfio drwy Rhwydwaith Arweinwyr Cymunedol CTM, fforwm partneriaeth o’r bwrdd iechyd, mae’r grŵp yn dod â sefydliadau lleol ac arbenigwyr iechyd ynghyd i gyd-ddylunio mentrau brechiad gyda chymunedau sydd yn cael eu heiffthio fwyaf gan anghydraddoldebau iechyd. Trwy weithio gyda lleisiau lleol dibynadwy, mae'r bartneriaeth wedi helpu i adeiladu hyder, lleihau rhwystrau i gael mynediad, a chefnogi pobl i aros yn iach yn ystod misoedd y gaeaf.
Un o'r cyflawniadau allweddol yw'r Pecyn Brechu’r Gaeaf “Mae’n Cymryd Pentref” https://ctmuhb.nhs.wales/about-us/ctm2030-community-hub/ctm2030-community-leaders-network/it-takes-a-village-to-keep-us-protected-from-flu-this-winter/ dwyieithog, a ddatblygwyd gyda mewnbwn y gymuned ac wedi'i deilwra i ardaloedd lleol gan gynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf. Mae'r bartneriaeth hefyd wedi hyfforddi Hyfforddwyr Brechu Cymunedol - pobl leol sydd wedi'u cyfarparu i rannu gwybodaeth y gellir ymddiried ynddi, ateb cwestiynau a chysylltu eraill â gwasanaethau.
Dywedodd Philip Daniels, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus, BIPCTM:
“Mae’r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu cryfder gweithio mewn partneriaeth ar draws Cwm Taf Morgannwg a’r rôl hanfodol y mae ein cymunedau’n ei chwarae wrth amddiffyn ei gilydd. Trwy weithio gyda sefydliadau lleol dibynadwy a grymuso arweinwyr cymunedol, rydym yn gwella mynediad at frechiadau tra'n mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Gyda'n gilydd, rydym yn helpu i gadw pobl yn ddiogel ac yn cefnogi bywydau iachach.”
Roedd y gwobrau hefyd yn cydnabod tîm Gofal Iechyd Carchar EF Y Parc, a gafodd ganmoliaeth uchel am eu dull arloesol o ddarparu brechiadau mewn lleoliad diogel drwy gyflwyno model dosbarthu arloesol dros benwythnosau, yn seiliedig ar yr asgell.
Bydd y bartneriaeth gymunedol a Charchar EF Parc yn cael eu cydnabod fel rhan o Gynhadledd Imiwneiddio Cymru ym mis Ebrill a drefnir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
31/03/2026