Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau dros dro i wasanaethau pelydr-X yn Ysbyty Cymunedol Maesteg

Bydd yr adran pelydr-X yn Ysbyty Cymunedol Maesteg yn cau dros dro ar gyfer gwaith adnewyddu hanfodol o ddydd Mercher 25 Rhagfyr 2024 tan mis Ebrill 2025.

Yn ystod y cyfnod hwn, bydd pob claf yn gallu cael mynediad at wasanaeth galw i mewn yn Ysbyty Tywysoges Cymru, o ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 7.30am a 5pm.

Bydd meddygon teulu yn rhoi manylion y trefniadau gwasanaeth dros dro hyn i unrhyw glaf y mae angen ei atgyfeirio i'r gwasanaeth.

Byddwn yn darparu diweddariadau pellach ynghylch pryd y bydd y gwasanaeth yn dychwelyd i Faesteg.

Diolch

16/12/2024