Neidio i'r prif gynnwy

Mae system presgripsiynu electronig newydd yn cael ei lansio yn CTM

Mae system ddigidol newydd i gefnogi presgripsiynu meddyginiaeth yn fwy diogel ac effeithlon yn cael ei chyflwyno ar draws ein hysbytai yng Nghwm Taf Morgannwg.

Mae Presgripsiynu Gweinyddu Meddyginiaethau Electronig (ePMA) yn disodli siartiau cyffuriau papur traddodiadol gyda system ddigidol fodern, gan ganiatáu i weithwyr gofal iechyd proffesiynol bresgripsiynu a gweinyddu meddyginiaethau yn electronig. Bydd y broses newydd yn dechrau'r wythnos hon yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, cyn ehangu i safleoedd ysbytai acíwt a chymunedol eraill ar draws y Bwrdd Iechyd.

Mae cyflwyno ePMA yn rhan o raglen genedlaethol ehangach i wella arferion presgripsiynu ledled Cymru. Drwy ddigideiddio'r broses, nod y system yw lleihau gwallau meddyginiaeth, gwella mynediad at wybodaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau clinigol, a gwella diogelwch ac ansawdd cyffredinol gofal cleifion.

Mae’n bosibl y bydd cleifion yn sylwi bod staff yn defnyddio dyfeisiau symudol, gliniaduron, neu lechen ar wardiau fel rhan o'r system newydd. Er bod y dechnoleg sy’n cefnogi presgripsiynu yn newid, gall cleifion fod yn hyderus y bydd eu gofal a’u profiad yn aros yr un fath.

Yn ogystal â gwella diogelwch, bydd ePMA yn helpu i symleiddio prosesau, lleihau oedi wrth dderbyn meddyginiaeth, a chefnogi ffyrdd mwy cynaliadwy a di-bapur o weithio ar draws GIG Cymru.

Mae'r system wedi'i datblygu gyda mewnbwn gan dîm amlddisgyblaethol o fferyllwyr, nyrsys, meddygon ac arbenigwyr digidol, gan sicrhau ei bod yn diwallu anghenion staff a chleifion.

Dywedodd Stuart Morris, Cyfarwyddwr Digidol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Mae cyflwyno ePMA yn garreg filltir arwyddocaol yn ein taith trawsnewid digidol yn CTM. Drwy ddisodli siartiau papur gyda system ddigidol fwy diogel a mwy effeithlon, rydym yn gwella'r ffordd y mae ein staff yn darparu gofal bob dydd. Mae hwn yn gam gwirioneddol ymlaen i ddiogelwch cleifion, ac rwy'n hynod falch o'r timau sydd wedi gweithio mor galed i'w wireddu.”

Am ragor o wybodaeth am ePMA, gan gynnwys beth mae'n ei olygu i gleifion a sut mae'n gweithio, gweler ein tudalen Cwestiynau Cyffredin.

27/03/2026