Neidio i'r prif gynnwy

Mae Fferyllfa Abercynon yn darparu Clinig Rhoi'r Gorau i Ysmygu

Mae Sheppard’s Pharmacy yn Abercynon wedi bod yn cynnal clinig wythnosol pwrpasol i helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu.  

Ers blynyddoedd lawer, mae fferyllfeydd wedi cefnogi ysmygwyr i roi'r gorau i ysmygu trwy amrywiaeth o wahanol ddulliau, gan gynnwys darparu cymorth a chyngor uniongyrchol, a a darparu therapïau disodli nicotin dros y cownter. Mae fferyllfeydd sy’n cymryd rhan hefyd wedi cydweithio â phartneriaid fel Helpa Fi i Stopio i roi gwell cymorth i ysmygwyr sy’n dymuno rhoi’r gorau i ysmygu.  

Mae tîm Sheppard’s Pharmacy wedi mynd un cam ymhellach. Maen nhw wedi bod yn cynnal clinig rhoi’r gorau i ysmygu bob dydd Mercher gan ddarparu amser a lle penodol i ysmygwyr sydd am roi’r gorau i ysmygu er mwyn cael cymorth a chyngor. Gall ysmygwyr alw heibio unrhyw bryd yn ystod y dydd. Mae’r tîm fferylliaeth hefyd yn cynnig sesiynau un-i-un wythnosol i ysmygwyr, sy’n lleihau i sesiynau bob pythefnos, am gyfanswm o hyd at 12 wythnos.  

Mae'r clinigau a'r sesiynau yn ychwanegu at y gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu traddodiadol sy’n cael eu darparu gan y tîm ac yn gwella arnyn nhw.  Hyd yma mae'r clinig wedi cefnogi naw o bobl, sy'n cynrychioli cynnydd ar y niferoedd blaenorol.  Mae’r tîm fferylliaeth yn credu bod y model clinig galw heibio wedi denu mwyafrif y bobl sy’n mynychu ar hyn o bryd.  

Dywedodd Roslyn Williams, technegydd fferyllol sy’n cefnogi’r clinig: “Mae’r clinig yn galluogi fy hun a’r tîm i ganolbwyntio ar gefnogi pobl i roi’r gorau i ysmygu, dod i adnabod y rhai sy’n mynychu a chynnig mwy o amser ymroddedig iddyn nhw heb unrhyw wrthdyniadau.  Rydw i’n teimlo bod y clinig hefyd wedi helpu fy natblygiad proffesiynol fy hun, gan fy mod bob amser yn ceisio gwella fy ngwybodaeth am ddulliau i helpu ysmygwyr sydd am roi’r gorau i ysmygu.  

“Mae pobl sy’n mynychu’r clinigau galw heibio wedi dweud eu bod yn teimlo’n fwy cyfforddus yn cael mynediad i’r gwasanaeth, gan wybod bod aelod ychwanegol o staff yn ymroddedig i’w cefnogi. Dydyn nhw ddim yn teimlo eu bod yn gorfodi ar y tîm fferylliaeth, nac yn eu “rhoi allan”. Roedd hyn yn ddiddorol iawn gan nad oeddem wedi ystyried o’r blaen bod y cyhoedd yn teimlo y gallai gofyn am help i roi’r gorau i ysmygu fod yn faich ar staff, neu fod hyn yn rhwystr i gael mynediad at wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu, ond yn amlwg gall fod yn broblem.” 

“Rydw i’n meddwl bod y clinigau pwrpasol hyn yn wych iawn a byddwn wrth fy modd eu gweld ar gael yn ehangach.” 

Dywedodd Jason Caroll, Prif Fferyllydd – Gwasanaethau Cymunedol, BIPCTM: “Mae timau fferylliaeth yn gweithio yng nghanol ein cymunedau, gan ddarparu gwasanaethau GIG a gofal arbenigol i’r boblogaeth gyfan. Mae ysmygwyr sy'n cyrchu cymorth hyd at 300% yn fwy tebygol o roi'r gorau i ysmygu yn llwyddiannus. Mae miloedd o bobl wedi rhoi'r gorau i ysmygu gyda chymorth gan eu fferyllfa gymunedol leol.  

“Mae’r model clinig sy’n cael ei ddefnyddio gan dîm fferyllfa Abercynon hwn yn eu galluogi i gynnig cymorth pellach ac amser penodol i helpu ysmygwyr sydd am roi’r gorau i ysmygu. Mae’n wych gweld y tîm fferyllol hwn yn datblygu gwasanaethau arloesol a hygyrch i bobl yn y gymuned leol.” 

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am sut i roi'r gorau i ysmygu, ewch i:  https://www.helpafiistopio.cymru/alla-i-ddewis-sut-i-roir-gorau-i-smygu/  

08/07/2024