Rydym yn dechrau 2025 gyda galw eithriadol ar ein gwasanaethau a’n staff. Dyma beth allwch chi ei wneud i helpu:
- Gwnewch y dechrau cywir i 2025. Does neb eisiau treulio dyddiau cyntaf y Flwyddyn Newydd yn ystafell aros adran argyfwng neu yng nghefn ambiwlans. Mae’r GIG yn hynod o brysur yr wythnos hon felly os byddwch yn ymweld ag adran argyfwng gyda salwch neu anaf llai difrifol, mae’n debygol y byddwch yn aros am amser hir i gael eich gweld wrth i ni drin y rhai â phroblemau iechyd brys sy’n bygwth bywyd.
- Dilynwch y cyngor a gwisgwch fasg. Pan fyddwch yn ymweld â lleoliad y GIG, bydd gofyn i chi gymryd camau penodol i leihau lledaeniad salwch, fel gwisgo masg ym mhob un o’n hysbytai, golchi’ch dwylo neu ddefnyddio diheintydd dwylo. Efallai eu bod nhw’n ymddangos fel pethau bach, ond maen nhw'n gwneud gwahaniaeth mawr.
- Gwnewch ddewisiadau da! P’un ai meddwl yn ofalus am y gwasanaeth GIG sydd orau i chi (er enghraifft, dim ond ymweld ag adran argyfwng os yw’n argyfwng), dewis cael eich brechu, neu ymrwymo i newid ystyrlon a chynaliadwy yn eich ffordd o fyw (fel gwneud ymarfer corff bob dydd) gwneud dewisiadau sy’n briodol i chi a’ch iechyd yw un ffordd o gael y gofal sydd ei angen arnoch, aros yn iach, a helpu’r GIG i ofalu am y rhai sydd ein hangen fwyaf.
- Ewch i gael eich brechu! Os ydych chi’n gymwys i gael brechiadau rhag ffliw neu COVID, peidiwch â cholli’r cyfle. Cael eich brechu yw'r peth mwyaf effeithiol y gallwch chi ei wneud i atal eich hun rhag mynd yn sâl a dioddef effeithiau gwaethaf y firysau hyn.
- Ymwelwch yn gyfrifol. Mae achosion o ffliw, COVID, a salwch fel Norofeirws (byg chwydu’r gaeaf) yn cynyddu. Gall y feirysau hyn fod yn beryglus i gleifion sy’n agored i niwed mewn ysbytai, a gallant achosi prinder staff. Os ydych chi'n meddwl bod feirws gyda chi, neu eich bod chi wedi treulio amser yn ddiweddar gyda rhywun sydd â feirws, ceisiwch osgoi ymweld ag ysbyty oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol.
01/01/2025