Gyda galw eithriadol ar ein gwasanaethau a chynnydd o achosion ffliw yn ein hysbytai a’n cymunedau, rydym yn gofyn i’r cyhoedd ddefnyddio ein gwasanaethau’n ddoeth a’n helpu i atal lledaeniad salwch.
Mae achosion o’r ffliw yn ein hysbytai a’n cymunedau yn parhau i gynyddu. O ganlyniad, mae BIP CTM wedi penderfynu ei gwneud yn ofynnol i’r holl staff, cleifion ac ymwelwyr (ac eithrio’r rhai sydd wedi’u heithrio’n feddygol) wisgo masg ym mhob lleoliad ysbyty acíwt a chymunedol.
Bydd masgiau yn cael eu darparu wrth fynedfeydd adeiladau.
Mae’r gofyniad hwn yn hanfodol i ddiogelu ein cleifion, staff ac ymwelwyr ac mae’n berthnasol i’r ardaloedd sy’n cael eu rhestru isod hyd nes y clywir yn wahanol:
Hoffem hefyd atgoffa’r cyhoedd, cleifion a’r rhai sy’n ymweld ag anwyliaid yn yr ysbyty o bwysigrwydd atal lledaeniad salwch. Helpwch ni drwy ddilyn y camau isod:
Os ydych yn gymwys i gael brechiadau rhag y ffliw neu COVID, peidiwch â cholli allan. Cael eich brechu yw'r peth mwyaf effeithiol y gallwch ei wneud i atal eich hun rhag mynd yn sâl a dioddef effeithiau gwaethaf y feirysau hyn.
Golchwch eich dwylo'n aml â sebon a dŵr, neu defnyddiwch ddiheintydd dwylo. Gall hyn ymddangos fel peth bach, ond mae'n gwneud gwahaniaeth mawr.
Mae achosion o'r ffliw, COVID, a salwch fel Norofeirws (byg chwydu'r gaeaf) yn cynyddu. Gall y feirysau hyn fod yn beryglus i gleifion sy’n agored i niwed mewn ysbytai, a gallant achosi prinder staff. Os ydych yn credu bod feirws gyda chi, neu wedi treulio amser gyda rhywun sydd â feirws yn ddiweddar, dylech osgoi ymweld ag ysbyty oni bai ei fod yn gwbl angenrheidiol.
04/01/2025