Mae profion cyflym ar gyfer heintiau bacteriol yn cael eu cyflwyno mewn fferyllfeydd cymunedol a meddygfeydd teulu ledled Cymru.
Yn y prosiect peilot dwy flynedd hwn, bydd canlyniadau'r profion yn cael eu darparu bron ar unwaith, heb fod angen anfon samplau i labordai.
Mae'n rhan o nod parhaus Llywodraeth Cymru i sicrhau bod mwy o bobl yn gallu cael gafael ar ofal iechyd yn fwy lleol, yn eu cymunedau. Bydd hefyd yn helpu i dargedu'r ffordd mae gwrthfiotigau'n cael eu presgripsiynu, gan fynd i'r afael â phroblem ymwrthedd.
Mae'r prosiect yn defnyddio offer diagnostig a brynwyd yn wreiddiol yn ystod y pandemig. Mae'r offer wedi cael ei uwchraddio a'i ailbwrpasu i'w ddefnyddio i brofi am heintiau bacteriol lluosog mewn lleoliadau cymunedol.
Cefnogir y cynllun gan £734,000 o gyllid Llywodraeth Cymru a £500,000 gan Sefydliad Ymchwil Gwrthficrobaidd Rhydychen INEOS. Bydd Prifysgol Rhydychen yn darparu gwerthusiad annibynnol o'r prosiect.
Bydd y cynllun peilot Profion Pwynt Gofal (POCT) mewn Gofal Sylfaenol yn canolbwyntio i ddechrau ar brofion Protein C-Adweithiol (CRP), sy'n helpu clinigwyr i adnabod heintiau bacteriol a gwneud penderfyniadau mwy gwybodus wrth roi gwrthfiotigau ar bresgripsiwn.
Mae mwy na 300 o fferyllfeydd cymunedol a phractisau meddygon teulu yn ardaloedd pob un o saith bwrdd iechyd Cymru wedi mynegi diddordeb mewn cymryd rhan yn y treial, sydd hefyd yn cefnogi'r frwydr fyd-eang yn erbyn ymwrthedd gwrthficrobaidd, sy'n un o'r prif fygythiadau i iechyd y cyhoedd yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles: "Mae hwn yn gyfle unigryw i Gymru arwain y ffordd o ran defnyddio profion diagnostig o ansawdd uchel mewn gofal sylfaenol a chymunedol.
"Drwy ddod â phrofion yn agosach at ble mae pobl yn byw, gallwn wella canlyniadau iechyd, lleihau'r pwysau ar wasanaethau ysbyty, a sicrhau defnydd mwy priodol o wrthfiotigau."
Drwy'r bartneriaeth gyda Phrifysgol Rhydychen, bydd modd cael gwerthusiad trylwyr, annibynnol o effaith y treial ar bresgripsiynu gwrthfiotigau, canlyniadau cleifion, a chost-effeithiolrwydd. Bydd yr ymchwil hefyd yn datblygu modelau dysgu peirianyddol i ganfod cleifion y mae perygl iddynt ddioddef canlyniadau niweidiol.
Dywedodd yr Athro John Geen, arweinydd clinigol ar gyfer biocemeg glinigol a phrofion pwynt gofal ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: "Rydym yn edrych ymlaen at gefnogi'r astudiaeth hon ac rydym wedi bod yn un o'r rhai cyntaf i ddefnyddio'r ddyfais Lumira Dx i fesur Protein C-Adweithiol yn y gymuned.
"Mae'r prosiect hwn yn cynnig cyfle i ymchwilio i'r broses o wneud penderfyniadau clinigol ynglŷn â rhoi presgripsiwn am wrthfiotigau i gleifion sydd â heintiau anadlol, ynghyd ag effaith ymyriadau ymddygiadol, gyda chefnogaeth profion diagnostig, mewn meddygfeydd teulu a fferyllfeydd cymunedol.
"Mae'n bosibl hefyd y gall yr astudiaeth ein helpu i ddeall a sefydlu'r logisteg sy'n ofynnol ar gyfer darparu profion diagnostig yn y gymuned yn y dyfodol."